Back
Neuadd y Ddinas Caerdydd yn troi’n felyn i Geraint

 Bydd Neuadd y Ddinas Caerdydd yn cael ei goleuo'n felyn y penwythnos hwn i nodi camp Geraint Thomas fel y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France.

 

Llwyddodd y beiciwr 32 oed o ardal Llwynbedw'r ddinas i gadw crys melyn yr enillydd y bu'n ei gwisgo am y rhan fwyaf o'r cymalau eleni, wedi curo pencampwr y llynedd a'i gyd-aelod yn nhîm Sky, Chris Froome.

 

Bydd cyfle gan ymwelwyr â Gŵyl Traeth Bae Caerdydd Capital FM y penwythnos hwn i wylio cymalau olaf y ras, gan gynnwys y prawf amser unigol yfory, ar sgrin fawr yn yr atyniad.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng Huw Thomas: "Rydym mor falch o gamp hynod Geraint fel ein bod wedi penderfynu goleuo Neuadd y Ddinas yn felyn ddydd Sadwrn a Dydd Sul i nodi'r gamp hynod hon i'r byd chwaraeon yng Nghymru.

 

"Mae Geraint yn gennad gwych i'w ddinas ac yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc sydd yn ystyried ymddiddori mewn camp benodol, un ai yn broffesiynol neu fel diddordeb hamdden. Fy y bydd llawer yn gwybod fe ddechreuodd Geraint feicio'n gystadleuol gyntaf gyda'r Maindy Flyers ar y trac yng Nghanolfan Hamdden Maendy yma yng Nghaerdydd, ac mae'n brawf diymwad ei bod hi'n bosibl gyda gwaith caled, ymroddiad, awch a hyfforddi da, i gyrraedd y brig yn eich camp.

 

"Ar ran pawb yma yng Nghaerdydd carwn longyfarch Geraint, ei deulu a phawb yn nhîm beicio Sky."

 

Mae Geraint Thomas yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac yn rhan o oriel o bencampwyr chwaraeon nodedig yno sy'n cynnwys Gareth Bale a Sam Warburton.