Back
Siwmper Felen yn hedfan uwchben Neuadd y Ddinas i anrhydeddu buddugoliaeth Geraint Thomas yn y Tour de France
Mae siwmper felen yn hedfan yn uchel uwchben Neuadd y Ddinas i anrhydeddu buddugoliaeth hanesyddol Geraint Thomas yn y Tour de France. 

Yn dilyn y golygfeydd gwych ym Mharis ddydd Sul aeth staff y cyngor ati i godi’r faner fore dydd Llun. 

Y ‘faner' felen unigryw yw’r ddiweddaraf ymhlith cyfres o deyrngedau i’r beiciwr o Gaerdydd sydd wedi gweld cannoedd o bobl mewn gwisgoedd melyn ar feiciau yn cymryd rhan mewn taith feiciau drwy strydoedd y brifddinas, Neuadd y Ddinas a Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, yn ogystal ag adeiladau ledled Cymru yn cael eu goleuo’n felyn.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:“Mae’r hyn a gyflawnodd Geraint yn rhyfeddol, mae gweld Cymro balch yn ennill am y tro cyntaf yn hanes y Tour de France yn  golygu llawer i bobl Caerdydd a Chymru gyfan.

“Mae Geraint wedi rhoi Cymru ar y map a nawr rydym yn talu teyrnged iddo drwy chwifio’r siwmper felen nes gallwn ei groesawu yn ôl yn iawn."