Back
Croeso mawr i arwr beicio Cymru
Disgwylir i filoedd o bobl heidio i strydoedd Caerdydd ddydd Iau nesaf i groesawu Geraint Thomas, arwr beicio Cymru yn ôl i Gymru ar ôl ennill Tour de France.

Bydd y beiciwr o Gaerdydd yn cael croeso mawr mewn digwyddiad ar hyd Heol Eglwys Fair a thu allan i Gastell Caerdydd o 5pm tan 5.30pm ar 9 Awst.

Bydd enillydd Tour de France sydd hefyd wedi ennill y fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn arwain peloton o feicwyr ifanc clybiau beicio achrededig Beicio Cymru i fyny Heol Eglwys Fair hyd at Stryd y Castell cyn mynd ar lwyfan yn y castell i siarad â’r dorf.

Bydd y siwrne i fyny Heol Eglwys Fair yn digwydd ar ôl ychydig funudau ar risiau’r Senedd yng nghwmni Prif Weinidog Cymru a’r Llywydd rhwng 4.30 a 4.40pm ddydd Iau.

Mae croeso mawr i bawb fynd i Heol Eglwys Fair i wylio Geraint yn beicio tuag at y Castell lle gall y dorf ei glywed yn siarad.Yna bydd y Cymro a’r cyflwynydd Gethin Jones yn cynnal y digwyddiad ar lwyfan o flaen y castell. 

Croesawodd Geraint y digwyddiad a dywedodd: “Rwyf wedi cael fy synnu’n fawr gan yr holl gefnogaeth ers Tour de France – gan bawb, ond gan y cyhoedd yng Nghymru yn arbennig. 

“Rwy’n edrych ymlaen at gael dychwelyd i Gaerdydd ddydd Iau ar gyfer y dathliad. 

“Mae’n fraint arbennig ac rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sydd ynghlwm wrth helpu i gynnal y digwyddiad hwn”.

Dywedodd arweinydd y Cyngor, Huw Thomas: “Mae Caerdydd yn falch iawn o gyflawniad Geraint a’r fuddugoliaeth arbennig hon i chwaraeon Cymru.  Rwy’n gwybod bod y ddinas gyfan yn awyddus i ddathlu gyda Geraint, mae’r ymateb i’w fuddugoliaeth yn y Tour de France wedi bod yn wych ac yn rydyn ni’n hapus iawn o allu ei helpu i ddathlu’r fuddugoliaeth yn y castell o flaen miloedd.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae Cymru’n falch iawn o’i phencampwyr ac roedd gweld Geraint â’r Ddraig Goch uwch ei ben ar ôl ennill y Tour yn foment fythgofiadwy yn hanes campau ein gwlad.

“I mi, taith wefreiddiol Geraint i Baris yw’r gamp unigol orau erioed gan Gymro. Mae llwyddiant ein seren ni – a’i hiwmor arbennig Cymreig  trwy gydol y ras boenus, galed hon – wedi bod yn ysbrydoliaeth. Rydym yn edrych ymlaen at roi croeso cynnes Cymreig iddo ddydd Iau, i ddiolch iddo am bopeth mae wedi ei gyflawni.

“Dewch yn llu i Heol yr Eglwys Fair nos Iau er mwyn dangos i Geraint pa mor falch ydyn ni o’i lwyddiant”

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Braint o’r mwyaf yw croesawu Geraint Thomas i'r Senedd, cartref democratiaeth yng Nghymru, cyn taith sy’n siŵr o fod yn arbennig draw at Gastell Caerdydd. Roedd ei ymdrechion yn ystod y Tour de France yn arbennig i’w gwylio ac mae’n ysbrydoliaeth i ni oll.

"Mae'n addas dathlu ei gamp ar yr un pryd â dathliad mawreddog Cymru, yr Eisteddfod, sy’n cael ei gynnal ym Mae Caerdydd eleni.

"Mae'n gwbl haeddiannol o gael croeso teilwng gartref, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn heidio draw i roi croeso cynnes iddo."Dywedodd Anne Adams-King, Prif Weithredwr Beicio Cymru: “Mae Beicio Cymru yn edrych ymlaen at groesawu Geraint adref ddydd Iau, mae pawb yn falch iawn ohono a bydd yn gyfle i bobl ledled Cymru rannu’r foment arbennig hon.”

Dywedodd Anne Adams-King, Prif Weithredwr Beicio Cymru: “Mae Beicio Cymru yn edrych ymlaen at groesawu Geraint adref ddydd Iau, mae pawb yn falch iawn ohono a bydd yn gyfle i bobl ledled Cymru rannu’r foment arbennig hon.”

Wedi’i eni yn Llwynbedw ac wedi bod yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, dechreuodd Geraint feicio yn 10 oed ar gyfer Clwb Beicio Maindy Flyers. Ers hynny, mae wedi ennill tair Pencampwriaeth y Byd; dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd; ac mae bellach wedi ennill ras feicio mwyaf mawreddog y byd – y Tour de France.

Geraint Thomas yw’r Cymro cyntaf i ennill Tour de France a’r trydydd beiciwr Prydeinig i wneud hynny yn dilyn Bradley Wiggins a Chris Froome. Mae Caerdydd yn falch dros ben o groesawu Geraint yn ôl i’r ddinas ac yn gobeithio y bydd llawer o bobl yn dod allan i ddathlu ei lwyddiannau.

 

·         I baratoi ar gyfer y digwyddiad ac ar gyfer y digwyddiad ei hun, bydd ffyrdd ar gau.

 

Ddydd Iau 9 Awst, 10am tan 10pm, bydd Stryd Fawr ar gau ar ei hyd i baratoi ar gyfer y digwyddiad.

 

O 3pm tan 8pm, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

 

·         Heol Eglwys Fair o’r gyffordd â Stryd Wood i’r gyffordd â Stryd Fawr  

·         Heol y Cawl o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair i’r gyffordd â Stryd y Popty

·         Stryd y Popty ar ei hyd

·         Stryd y Castell o’r gyffordd â Heol y Porth i’r gyffordd â Heol y Dug

·         Heol y Dug ar ei hyd

·         Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Dug i’r gyffordd â Heol y Brodyr Llwydion

·         Heol y Gogledd o’r gyffordd â Ffordd y Brenin i’r gyffordd â Boulevard de Nantes

·         Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth tua’r dwyrain. Ni fydd hyn yn effeithio ar bobl sy’n teithio tua’r gorllewin.