Back
Windsor Clive yn ysgol ‘dda' â ‘chymuned gynhwysol a meithringar'

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y corff gwarchod addysg Estyn wedi canfod bod Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái yn ‘dda' ar draws pob maes a archwiliwyd. 

Yn yr adroddiad, dywedodd archwilwyr Estyn, dan y Pennaeth Mrs Vicky Meadows, fod "arweinwyr a staff Ysgol Gynradd Windsor Clive yn cynnig amgylchedd cefnogol a chynhwysol iawn i ddisgyblion." 

Mae'r adroddiad yn parhau i ddatgan bod "disgyblion yn falch o'u hysgol ac yn cyfarch oedolion a disgyblion eraill yn hyderus a pharchus. Mae yna berthnasau gwaith da rhwng disgyblion a staff, yn seiliedig ar barch cyffredin. Mae disgyblion yn ymddwyn yn dda ac yn dangos caredigrwydd a pharch at ei gilydd." 

Canfuwyd hefyd fod gan athrawon "ddisgwyliadau uchel o ran ymddygiad disgyblion a'u bod yn rheoli gwersi'n bwyllog ac effeithiol." 

O ran gofal, cymorth ac arweiniad, ystyrir bod yr ysgol yn "gynhwysol a meithringar" a bod "disgyblion yn cael cymorth emosiynol rhagorol." 

Gwnaeth Estyn hefyd gydnabod rôl swyddog cyswllt teuluoedd yr ysgol, gan nodi bod ei waith gyda rhieni "yn eu helpu i gefnogi eu plentyn" a'i fod yn cynnal "gweithdai pwrpasol i rieni." 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Dwi wrth fy modd i Mrs Meadows, y staff a'r disgyblion yn Ysgol Gynradd Windsor Clive. Maent wedi bod yn gweithio'n arbennig o galed, ac mae'r adroddiad da hwn gan Estyn yn haeddiannol iawn. Dwi'n edrych ‘mlaen at ymweld â'r ysgol ar ôl y gwyliau haf i longyfarch pawb wyneb yn wyneb." 

Mae Estyn yn archwilio'r pum maes canlynol: safonau; lles ac agweddau at weithio; profiadau addysgu a dysgu; gofal, cymorth ac arweiniad; ac arweinyddiaeth a rheoli. Mae'r archwilwyr yn gwerthuso effeithiolrwydd gan ddefnyddio ‘graddfa feirniadu' â phedwar pwynt: rhagorol; da; digonol ac angen gwella; neu anfoddhaol ac angen gwella ar unwaith.