Back
Hyb Cymunedol Llaneirwg - Hyb siop un stop newydd yn paratoi i agor ei ddrysau

Bydd yr hyb mwyaf newydd y ddinas fydd yn cynnig gwasanaethau a chyfleusterau i'r gymuned, yn agor yr wythnos nesaf, ddydd Llun 20 Awst am 9am.Bydd yr Hyb newydd ar Crickhowell Road, Llaneirwg, ar agor chwe diwrnod yr wythnos a bydd yn darparu ystod ehangach o wasanaethau a chyfleusterau gwell.

Mae'r hyb newydd wedi'i adnewyddu a'i ymestyn i ddod y cyfleuster diweddaraf i agor yn rhaglen hybiau cymunedol llwyddiannus y Cyngor.Mae'r project £3 miliwn wedi manteisio ar grant dan Raglen Gyfalaf Adfywio Llywodraeth Cymru.

Mae ymgynghoriadau cyhoeddus helaeth wedi helpu i siapio dyluniad a threfn y cyfleuster integredig hwn fydd bellach yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid ar y cyd mewn adeilad modern o ansawdd.Mae'n ymgorffori llyfrgell wedi'i hymestyn, darpariaeth TG helaeth, caffi a chegin gymunedol, ystafelloedd cyngor a chyfweld, ardal i'r ieuenctid, darpariaeth ofal plant, ystafelloedd aml-ddefnydd a neuadd gymunedol fawr ac ystafelloedd newid. 

Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu manteisio ar wasanaethau cyngor, budd-daliadau a thai, rhyngrwyd a Wi-Fi am ddim, ffonau am ddim i gysylltu â'r Cyngor a gwasanaethau eraill a Chyngor a hyfforddiant i Mewn i Waith, yn ogystal â rhaglen lawn o weithgareddau cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Rwyf wrth fy modd bod ein hyb cymunedol diweddaraf yn barod i'r cyhoedd ac rwy'n gwybod, o lefel uchel y diddordeb rydym eisoes wedi'i dderbyn, fod y gymuned yn edrych ymlaen at agoriad yr hyb.

"Wedi mynd i'r adeilad newydd, rwyf wedi profi gyda fy llygaid fy hun y manteision enfawr y bydd yn eu creu yn Llaneirwg a'r ardaloedd o'i gwmpas.Bydd yn adeiladu ar lwyddiant Hybiau Cymunedol eraill o gwmpas y ddinas ac mae wedi'i deilwra ar gyfer anghenion penodol yr ardal hon. Byddwn yn annog trigolion i alw heibio a gweld i'w hunain yr hyn sydd gan yr Hyb i'w gynnig."