Back
ERLYNIAD CYNTAF Y TU ALLAN I'R DU I RHENTU DOETH CYMRU

Mae landlord Gwyddelig a fethodd â chydymffurfio â deddfwriaeth tai Cymru wedi cael dirwy a'i orchymyn i dalu costau o fwy na £750.

Cafwyd Mary Cotter oCappaghglass, Ballydehob, Cork, yn euog o dair trosedd danDdeddf Tai (Cymru) 2014 yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw mewn perthynas ag eiddo rhent ynLove Lane, Dinbych.

Methodd Mrs Cotter â chael trwydded, sy'n angenrheidiol i bob landlord hunan-reoli, i gyflawni gweithgareddau gosod a rheoli eiddo.Hefyd, rhoddodd wybodaeth ffug neu gamarweiniol i'rAwdurdod Trwyddedu Sengl, a'i herlyniad hi yw'r un cyntaf ar gyfer trosedd o'r fath.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, sef yr awdurdod trwyddedu sengl ar gyfer Rhentu Doeth Cymru, y Cyng. Lynda Thorne: "Mae'r erlyniad heddiw yn dangos y caiff camau gorfodi eu cymryd yn erbyn y landlordiaid hynny sydd ag eiddo yng Nghymru, waeth lle maent yn byw, sy'n methu â chydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.

"Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth i broffesiynoli'r sector rhent preifat, gwella safonau i denantiaid a helpu landlordiaid i fod yn fwy ymwybodol o'u cyfrifoldebau.Mae'r mwyafrif yng Nghymru bellach yn cydymffurfio ond byddwn yn parhau i chwilio am y rhai nad ydynt yn cyflawni eu hymrwymiadau cyfreithiol a'u dwyn i gyfrif am ddiffyg cydymffurfiaeth."

Gall tenantiaid weld a yw eu landlordiaid a/neu asiantau'n cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru drwy fynd i'r gofrestr gyhoeddus yn https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/