Back
Perfformiad arholiadau TGAU yn gwella eto yng Nghaerdydd

Perfformiad arholiadau TGAU yn gwella eto yng Nghaerdydd 

Mae'r canlyniadau TGAU amodol a ryddhawyd heddiw yn dangos gwelliant parhaus yng Nghaerdydd. 

Eleni, safodd 3,145 o fyfyrwyr eu harholiadau TGAU yn ysgolion Caerdydd, ac mae'r canlyniadau amodol yn dangos y cyflawnodd 60.2 y cant o ddisgyblion o leiaf 5 gradd A* i C, gan gynnwys mathemateg a Chymraeg neu Saesneg (a elwir yn ddangosydd Lefel 2+). Mae hyn i fyny o 58.5 y cant yn 2017. 

Ar gyfer y dangosydd Lefel 2 (5 neu fwy o TGAU A* i C), gwelwyd gwelliant ym mherfformiad Caerdydd i 72.5 y cant o gymharu â 69.9 y cant yn 2017. Mae Lefel 1 (5 neu fwy TGAU A* i G) wedi gwella i 93.9 y cant o 93.2 y cant y llynedd. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Llongyfarchiadau i bawb a gasglodd eu canlyniadau TGAU. Mae'n garreg filltir bwysig ym mywydau ein plant a phobl ifanc - diweddglo blynyddoedd o waith caled. Dymunaf bob llwyddiant i'r myfyrwyr yn y dyfodol wrth iddynt symud ymlaen at addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant. 

"Mae addysg yn flaenoriaeth allweddol i'r ddinas ac mae'n galonogol gweld gwelliant parhaus mewn safonau addysg yng Nghaerdydd. Yn 2013, cyflawnodd llai na hanner o'n myfyrwyr TGAU y safon Lefel 2+ allweddol. Heddiw mae'r ganran honno ar 60 y cant ac mae'r duedd sylfaenol yn awgrymu y bydd y gwelliant sylweddol a pharhaus rydym wedi'i weld dros y 5 mlynedd ddiwethaf yn parhau." 

Cyflwynwyd set newydd o gymwysterau TGAU yng Nghymru ar gyfer mathemateg, rhifedd, Cymraeg iaith, Saesneg iaith, llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth Saesneg, ynghyd â rheolau newydd ar gyfer adrodd ar berfformiad ysgolion, yn 2017. 

Mae'r holl ganlyniadau'n amodol, yn seiliedig ar ddata byrddau arholi. 

Rhai enghreifftiau o lwyddiant TGAU ar draws y ddinas 

Cantonian

  • 59% o ddisgyblion wedi cyflawni TGAU mathemateg gyda graddau A* - C.
  • 58% wedi cyflawni TGAU Saesneg Iaith gyda graddau A* - C; gwelliant o 12% ar y llynedd.
  • Canran i disgyblion a gyflawnodd 5 TGAU A* - C wedi cynyddu eto i 61%.
  • Y ganran a gyflawnodd 5 gradd A* - G wedi cynyddu ychydig i 97%.
  • 73% o ddisgyblion wedi cyflawni graddau A* - C yn y Dystysgrif Her Sgiliau ym Magloriaeth Cymru.
  • Canran y disgyblion a gyflawnodd 5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg wedi aros ar 46%. 

Ysgol Uwchradd Caerdydd

  • Cyflawnodd 88.5% o fyfyrwyr o leiaf 5 gradd A*-C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.
  • Cyflawnodd 46% o fyfyrwyr o leiaf 5 gradd A*-A, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.
  • Cyflawnodd 23 o fyfyrwyr o leiaf 9 gradd A* 

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

  • Mwy na 90% o fyfyrwyr wedi cyflawni'r dangosydd Lefel 1.
  • Canlyniadau gorau erioed i ferched sy'n cyflawni 5 TGAU, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.
  • Gwelliant cyffredinol ym mherfformiad bechgyn.
  • Gwelliannau sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy'n cyflawni o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. 

Ysgol Uwchradd y Dwyrain

  • Gwelliant parhaus, gyda chynnydd o 8 pwynt canrannol yn y rheini sy'n cyflawni 5 gradd A* i C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.
  • Dyma ganlyniadau gorau'r ysgol (gan gynnwys yr ysgolion rhagflaenol)
  • Gwelliant sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy'n cyflawni graddau A* ac A. 

Ysgol Uwchradd Fitzalan

  • Mwy na 40 o ddisgyblion wedi cyflawni 5 neu fwy o raddau A*-A - Muaad Eghlileb oedd y perfformiwr gorau gyda 14 A* ac 1 A, sy'n arbennig. Mae hyn yn curo record flaenorol yr ysgol, a oedd yn berchen i'w frawd Mohamed - aeth ef ymlaen i astudio meddygaeth yng Ngholeg Penfro, Rhydychen.Cyflawnodd Amitha Jha 12 A* a 2 A hefyd.Bydd y ddau ddisgybl yn astudio pynciau gwyddoniaeth yn bennaf yn Fitzalan. 

Ysgol Gyfun Radur

  • Mae Radur yn arbennig o falch gyda'r gyfran o ddisgyblion a gyflawnodd o leiaf 5 A*/A, sydd wedi cynyddu i 35%.
  • Mae 79% o ddisgyblion yn cyflawni 5 A* i C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.
  • Cyflawnodd 21 o ddisgyblion 5 neu fwy o raddau A*, sy'n rhyfeddol. Cyflawnodd 9 o'r rhain 9 neu fwy o raddau A*.
  • Dyma rai o'r perfformiadau gorau ymysg y canlyniadau rhagorol hyn:Will Couston (13A* ac 1A); Charlotte Innes (12A* a 2A); Emelia Whiles (11A* a 3 A); Emily Williams (11A* a 3As); Abigail Hall (10 A*, 3A ac 1B); Catrin Lewis (10A* a 5A); April Spiteri (10A*, 4A ac 1B); Sammy Peacock (9A* a 5A); Amy Shefferd (9A* a 2A). 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant

  • Cyflawnodd y myfyrwyr y graddau gorau yn hanes yr ysgol ar draws bob mesur perfformiad.
  • Cyflawnodd bron 70% o fyfyrwyr raddau A* i C mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
  • Ymysg y disgyblion sy'n dathlu mae Nada Ammar ac Alaa Cattaeh (14 A*/A), Millie Searing ac Oliver Smith (13 A*/A), Maisha Chowdhury (12 A*/A) ac Ewan Falcon a Matthew Tyler-Howells (10 A*/A).Llongyfarchiadau hefyd i Sania Chowdhury, Kian Cook, Milan Jacob, Can Oran, Emily Pearcey, Keiran Thomas a Bethan Watkins a gyflawnodd 8 neu fwy o raddau A*/A. 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

  • Ar y cyfan mae'r canlyniadau yr un peth â'r llynedd neu'n welliant, gyda mwy na 70% ar Lefel 2+ (5A*-C gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) ac 85% o fyfyrwyr yn cyflawni 5 TGAU neu gyfatebol - y gorau yn hanes yr ysgol. 
  • Cyflawnodd mwy na thraean o'r myfyrwyr 5 neu fwy o raddau A neu A*, gyda 39 o fyfyrwyr yn rhagori ar 10 A neu A*. 
  • Cyflawnodd pum myfyriwr 9 neu fwy o raddau A*. 

Ysgol Uwchradd Willows

  • Gwelwyd gwelliant mewn canlyniadau eleni ym mhob dangosydd allweddol.
  • Mae'r ysgol yn arbennig o falch o'r llwyddiant y mae'n parhau i'w gyflawni yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion Prydau Ysgol Am Ddim a disgyblion nad ydynt yn cael Prydau Ysgol Am Ddim, ynghyd â llwyddiannau disgyblion y mae'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.
  • Ymysg yr unigolion a wnaeth yn eithriadol o dda mae Daisy Stinton a gyflawnodd 11 TGAU A* i B; Ffyon Harding, gofalwr ifanc a gyflawnodd 12 TGAU A* - B a Bianca Moreira a ymunodd â'r ysgol ym Mlwyddyn 9 a hithau'n methu siarad Saesneg - mae hi'n gadael gyda 13 TGAU A*-C. 

Ysgol Gyfun Gymraeg Glan Taf

  • Cyflawnodd 49% o fyfyrwyr 5A* i A, sy'n gynnydd o 3 phwynt canrannol ar y llynedd - perfformiad gorau erioed yr ysgol o ran y dangosydd hwn.
  • Cyflawnodd 79% o fyfyrwyr y dangosydd Lefel 2+ gan ragori ar berfformiad y llynedd gan 5 pwynt canrannol.
  • Cyflawnodd 88% o fyfyrwyr 5 A*-C, tra bod 100% wedi cyflawni 5 A*-G.
  • Mae gormod o lwyddiannau unigol i'w nodi, ond mae'r canlynol yn arbennig o nodedig:Efan Owen 16 A*; Rhys Newton 13 A* ac 1A; Tegid Phillips  11A* a 3A; Ffion Rees 11A* a 3A; Daniel Thomas  11A* a 3A; Tom Price 11A*,  2 A, 2B; Ismay Evans 11A*,  2 A, 1B; Elen Boore 10A*,  4 A, 1B; Alaw Donovan 10A*,  4 A; Esyllt Parry-Lowther 10A*, 4A; Seren Rayment 10A*, 4A; Eirlys Lovell-Jones 10A*, 1A , 1B. 

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

  • Set wych o ganlyniadau, ymysg y gorau yn 20 mlynedd yr ysgol.
  • Cyflawnodd 30% o'r grŵp blwyddyn 5 neu fwy o raddau A* ac A, ac mae 87% o'r grŵp blwyddyn wedi cyflawni 5 neu fwy o raddau A*-C ar draws pob pwnc.
  • Perfformiodd y disgyblion canlynol yn eithriadol o dda a chyflawni 9 neu fwy o raddau A*, sy'n arbennig: Anellie Beare, Eleri Davies, Rachel Davies, Catrin John, Cadi Jones, Twm Richards, Steffan Rowlands, Rebecca Saunders, Rhiannon Spannaus, Elin Williams.