Back
Dathlu Diwrnod y Llynges Fasnachol yn y Plasty
Ymunodd cynrychiolwyr o sefydliadau Cyn-filwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog heddiw â Dirprwy Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich, ar gyfer seremoni i godi baner yn y Plasty i ddangos cefnogaeth i forwyr masnach y DU.

Codwyd baner y Llynges Fasnachol, y Lluman Coch, i nodi diwrnod y Llynges Fasnachol ac i anrhydeddu’r morwyr o’r gorffennol a'r presennol sydd wedi gwasanaethu eu gwlad gyda’r fath anrhydedd dros y blynyddoedd.

Dywedodd Gwir AnrhydeddusArglwyddFaer Caerdydd, y Cynghorydd Dianne Rees:“Mae heddiw yn nodi arwyddocâd y Llynges Fasnachol a’r rhan a chwaraeodd yn ystod dau Ryfel Byd.Mae mor bwysig ein bod yn cofio dewrder morwyr y Llynges Fasnachol mewn cyfnod o ryfel, a hynny dan yr amodau mwyaf eithafol y gellid eu dychmygu.

“Mae codi’r Lluman Coch, neu’r ‘Gadach Goch’ fel y caiff ei adnabod yn hoffus, wedi ei chydnabod fel baner y Llynges Fasnachol ers 1854. Mae wedi ei chodi’n falch dros foroedd y byd ar adegau o heddwch ac yn ystod cyfnodau o wrthdaro.”