Back
Academi Caerdydd yn lansio gwefan newydd

 

Mae darparwr hyfforddiant mewnol Cyngor Caerdydd wedi lansio gwefan newydd i ymestyn ei ystod o wasanaethau i gyrff sector cyhoeddus eraill.

 

Ers ei sefydlu yn 2008 mae Academi Cyngor Caerdydd wedi bod yn cynnal cyrsiau mewnol i staff mewn meysydd fel arwain a rheoli, entrepreneuriaeth, sgiliau mentora, ymwybyddiaeth deallusrwydd emosiynol a gwella iechyd a diogelwch yn y gweithle.

 

Wedi'i lleoli yn Neuadd y Ddinas, mae gan yr Academi ddewis o ystafelloedd TG modern ac ystafelloedd hyfforddiant sy'n cynnig yr amgylchedd perffaith ar gyfer dysgu ac mae modd hefyd logi'r cyfleusterau hyn gan sefydliadau allanol drwy'r wefan. Mae mewn lle delfrydol yng nghanol Caerdydd i gynadleddau a chyfarfodydd busnes i hyd at 50 o bobl.  

 

Dywedodd y Cyng Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Byddwn i'n annog i sefydliadau sector cyhoeddus eraill ddefnyddio'r cyrsiau a'r cyfleusterau hyfforddiant hynod a gynigir gan Academi Cyngor Caerdydd. Mae'r hyfforddiant wedi'i gymeradwyo'n llawn gan y Sefydliad Arwain a Rheoli ac mae'n ffordd wych o gadw cyllidebau hyfforddiant staff y sector cyhoeddus o fewn y sector cyhoeddus. Fel Canolfan Hyfforddi ILM gymeradwy mae Academi Cyngor Caerdydd yn cynnig ystod o raglenni achrededig ILM gan gynnwys ei hystod graidd o gyrsiau."  

 

Mae gwybodaeth am gyrsiau Academi Cyngor Caerdydd a sut i logi ystafelloedd cynadledda ar y wefan:https://www.cardiffcouncilacademy.co.uk/