Back
Caerdydd yn arwain y ffordd yn ystod Wythnos Ailgylchu

Canmolir cyfraddau ailgylchu trawiadol Caerdydd fymryn cyn Wythnos Ailgylchu - ond y neges yw bod angen gwneud mwy o waith.

 

Mae cyfraddau ailgylchu yng Nghaerdydd o 4% i 58% dros y 15 mlynedd nesaf gan ei gwneud y Ddinas Graidd orau yn y DU o ran ailgylchu. Bydd angen i ni ailgylchu 20,000 o dunelli yn rhagor o wastraff y ddinas erbyn 2025 i gyrraedd targed 70% Llywodraeth Cymru.

 

Hyd yn oed wrth ystyried y gwahaniaethau mewn casglu data, gyda chyfradd ailgylchu o 58.1% mae Caerdydd yn gwneud yn well nag unrhyw Ddinas Graidd arall yn y DU. Yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf mae gan Fryste gyfradd ailgylchu o 43.4%, Caeredin 42.3%, Manceinion 36% a Glasgow 26%.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Ar ddechrau Wythnos Ailgylchu rwy'n falch iawn o ddweud taw Caerdydd yw dinas arweiniol Prydain o ran ailgylchu ond ni allwn laesu dwylo gan fod angen mwy os ydym i gyrraedd ein targed statudol erbyn 2025. Ond credaf fod Wythnos Ailgylchu'n gyfle gwych i bwysleisio pwysigrwydd ailgylchu. Mae Caerdydd a Chymru wedi troi at ailgylchu, ac rydym yn un o brif genhedloedd ailgylchu'r Byd bellach."   

 

Fis Rhagfyr diwethaf, enwodd astudiaeth flaenllaw gan y cwmni ymgynghori amgylcheddol Eunomia taw Cymru oedd y drydedd genedl orau yn y Byd, gan ailgylchu 64% o'i gwastraff.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Eunomia: "Mae'n bwysig nodi bod yr ymchwil hon wedi'i chynnal fel y gallwn nodi pwy sy'n arwain y blaen wrth ailgylchu, i rannu arfer gorau drwy fwrw golwg ar yr hyn mae'r gwledydd hyn yn ei wneud. Gobeithiwn hefyd y bydd hyn yn helpu i ddatblygu'r drafodaeth ar sut i fesur ailgylchu ‘go iawn', yn unol ag egwyddorion yr hierarchaeth wastraff, mewn ffordd sydd mor gyson â phosibl o fewn Ewrop a thu hwnt."   

 

Meddai rheolwr ymgyrch Ailgylchu dros Gymru, Catrin Palfrey: "Yn gynyddol mae pobl yng Nghymru'n ailgylchu popeth y gallant yn y cartref ac mae ein safle yn rhengoedd y byd yn adlewyrchu hyn. Y mae hi felly hefyd yng Nghaerdydd - mae mwy a mwy ohonom yn ailgylchu, felly diolch i bawb am wneud popeth y gallwn a daliwch ati! Gyda'n gilydd gallwn helpu Cymru i gyrraedd y brig."

 

Mae Wythnos Ailgylchu o ddydd Llun 24 Medi tan ddydd Sul 30 Medi, a neges ymgyrch eleni yw: "Ailgylchu. Ry'n ni'n ei wneud. Mae'n bwysig." Ar y cyd ag Ailgylchu dros Gymru, bydd Cyngor Caerdydd yn goleuo Neuadd y Ddinas gyda brand yr ymgyrch ar nos Sul. I ddysgu mwy am Wythnos Ailgylchu ewch i:www.recycleforwales.org.ukwww.recycleforwales.org.uk