Back
Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)

Mae'r CDLl yn nodi'r polisïau cynllunio ac ardaloedd i'w datblygu yn y dyfodol. Gelwir yr ardaloedd mwyaf yn ‘safleoedd strategol' ac mae diddordeb wedi bod ym mhob un o'r safleoedd hyn, sy'n obeithiol iawn.

Beth yw cyfraniadau 106?

Rhwymedigaethau cynllunio sydd wedi'u nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol yw'r rhain.

Yn syml, mae'n rhaid i'r datblygwr dalu am gyfleusterau neu seilwaith i leihau effaith y datblygiad. Cytundeb cyfreithiol yw hwn.

Rhaid i'r taliadau hyn fod yn gymesur â maint y datblygiad a rhaid gwario'r arian yn yr ardal lle mae'r gwaith datblygu'n cael ei wneud.

Gall y term ‘seilwaith' hwn fod yn berthnasol mewn nifer o feysydd gan gynnwys tai fforddiadwy, gwella ffyrdd, neu gyffyrdd ar ffyrdd; trafnidiaeth gyhoeddus; cyfleusterau beicio neu gerdded; ysgolion; cyfleusterau cymunedol neu gyfleusterau iechyd.

Pryd y cytunir ar gyfraniadau 106 gyda'r datblygwr?

Mae'r datblygwr yn gwybod bod rhaid iddo dalu'r cyfraniadau hyn trwy'r CDLl. Mae hwn wedi'i gynnwys yn ei gynllun busnes.

Negodir cyfraniadau 106 gyda'r Cyngor ar ddechrau'r trafodaethau cynllunio a chytunir arnynt os a phryd y rhoddir caniatâd.

Pryd caiff cyfraniadau 106 eu gwario ar gefnogi seilwaith cymunedol?

Mae'r datblygwr naill ai'n adeiladu'r seilwaith, neu mae'r arian yn cael ei dalu i'r Cyngor ar adegau penodol o'r gwaith datblygu pan fo angen adeiladu'r seilwaith. Ar ôl talu'r arian, gall y Cyngor gomisiynu'r gwaith o ddylunio ac adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar y datblygiad.

Pam na chaiff y cyfleusterau cymunedol eu hadeiladu cyn i'r tai gael eu hadeiladu a'u gwerthu?

Mae dau brif reswm. Yn gyntaf, ni fydd gan ddatblygwr ddigon o arian ar ddechrau'r project i dalu am ei holl gyfraniadau o reidrwydd, gan fydd angen iddo ddechrau gwerthu tai neu fflatiau i ennill incwm.

Mae hyn oherwydd bod ganddo nifer o gostau cyn i unrhyw dai gael eu hadeiladu, gan gynnwys prynu tir gan berchennog y tir; talu am y cais cynllunio; talu am y dyluniadau; a thalu am y deunyddiau adeiladu.

Yn ail, mae angen adeiladu'r seilwaith dim ond pan fo ei angen. Felly, er enghraifft, nid oes pwynt adeiladu siop cyfleustodau neu gyfleuster cymunedol os nad oes digon o bobl i'w defnyddio.

A thelir am y tai fforddiadwy a nodir yn y CDLl gyda chyfraniadau 106?

Ie, darperir tai fforddiadwy trwy Gytundebau 106. Adeiladir yr eiddo ar yr un pryd â'r eiddo sy'n cael eu gwerthu ar y farchnad agored. Ond nid hon yw'r unig ffordd y mae tai fforddiadwy'n cael eu hadeiladu, gan fod arian hefyd ar gael trwy raglenni eraill y Cyngor a datblygiadau gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymdeithasau Tai).

Gyda datblygiadau mawr, mae angen i ni adeiladu mwy a mwy o ffyrdd yn sicr. A ffyrdd newydd yn cael eu hadeiladu?

Os oes angen ffyrdd newydd, cânt eu hadeiladu, ond gyda'r rhan fwyaf o ddatblygiadau caiff ffyrdd neu fynedfeydd cyfredol i'r datblygiad newydd eu gwella a'u haddasu i annog preswylwyr i deithio ar fws neu gerdded/beicio (Teithio Llesol).

Trwy wella trafnidiaeth gyhoeddus a Theithio Llesol rydym am annog pobl i adael eu ceir adref a defnyddio ffurfiau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn lleihau tagfeydd, gwella ansawdd aer ac yn helpu i greu dulliau iach o fyw.

Yn yr un modd â dinasoedd mawr eraill y DU, mae angen i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol fod yn ddibynadwy a dewis deniadol i bobl eu defnyddio.

Gan gymryd datblygiad Plas Dŵr fel enghraifft, beth mae'r datblygwr yn ei gyfrannu?

  • 1,800 o dai neu fflatiau fforddiadwy (30% o gartrefi ar y safle)
  • Gwella llwybrau cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a phriffyrdd
  • Mwy o wasanaethau bws a safleoedd i deithio ohonynt ar fws
  • Lonydd bysys dynodedig i sicrhau bod teithio ar fws yn gynt ac yn fwy dibynadwy
  • Cymorthdaliadau ar gyfer pas teithio am flwyddyn
  • Un ganolfan ardal a thair canolfan leol
  • Tair neu bedair ysgol gynradd (yn dibynnu ar angen)
  • Ysgol uwchradd newydd
  • Cyfraniad tuag at yr ysgolion cynradd presennol
  • 30 hectarau o fan agored
  • 2 safle rhandiroedd 50 llain
  • Chwe maes chwarae
  • Dau gyfleuster i bobl ifanc, a chyfraniad tuag at gyfleuster arall oddi ar y safle
  • Cyfleuster hamdden cymunedol
  • Llyfrgell
  • Cyfleuster gofal sylfaenol
  • Cyfraniadau tuag at uwchraddio Canolfan Hamdden y Tyllgoed

Os yw gwaith datblygu'n cael ei wneud mewn ardal benodol o'r ddinas, a yw cynghorwyr lleol yn cyflwyno syniadau ar sut y gellir gwario'r cyfraniadau 106 yn y wardiau y maent yn eu cynrychioli?

Mae cynghorwyr lleol yn cael cyfle i gyflwyno syniadau yn ystod y broses cais cynllunio. Ond mae'r Cyngor am gyfathrebu'n well â chynghorwyr lleol ar y materion hyn, felly mae ffordd ychwanegol newydd yn cael ei chynnig o weithio'n uniongyrchol â chynghorwyr i lunio ‘syniadau seilwaith' ar gyfer pob ward yn y ddinas.

Pan fo'r datblygiadau newydd hyn wedi'u hadeiladu, ym marn y Cyngor, sut fydd y rhwydwaith trafnidiaeth yn ymdopi?

Yn yr un modd ag unrhyw welliant, bydd rhywfaint o darfu wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Yn y tymor hwy, bydd y gwelliannau i'r ffyrdd yn cynnwys cynyddu'r cyfleoedd i deithio ar fws, cerdded neu feicio, a'u gwneud yn opsiwn mwy ymarferol.

Ni ellir dibynnu gormod ar geir preifat ac os ydym am wneud teithio trwy ddulliau eraill yn fwy deniadol, yna mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn y seilwaith i gyflawni hyn a'r dyna'r hyn rydym yn ei wneud.

Mae llawer o sôn am y METRO, sut fydd yn cysylltu â'r datblygiadau newydd sydd wedi'u cynllunio ledled y ddinas?

Ar ddechrau'r flwyddyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gontract newydd gyda KeolisAmey i ddatblygu a gweithredu Masnachfraint Rheilffordd Cymru a'r Ffiniau a'r METRO.

Bydd hyn yn chwyldroi sut rydym yn teithio i'r Brifddinas ac o'i chwmpas i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis llawer mwy dichonadwy.

Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda'r holl bartneriaid sy'n rhan o hyn a bydd yn parhau i wneud hynny er mwyn sicrhau bod modd creu unrhyw lwybrau newydd sy'n cael eu cynnig trwy unrhyw un o'r safleoedd strategol.