Back
Datblygu tai, cyflenwi cartrefi newydd


Mae'r gwaith o ddatblygu tai fforddiadwy yng Nghaerdydd yn mynd rhagddo o nerth i nerth wrth i'r Cyngor weithio tuag at gyflenwi 2,000 o dai newydd yn y ddinas.

 

Yn un o blith llond llaw yn unig o awdurdodau lleol sy'n adeiladu eiddo newydd, mae Caerdydd wedi ymrwymo i gynyddu ei stoc o dai er mwyn ateb y galw cynyddol am gartrefi fforddiadwy o safon yn y ddinas, ac mae'n gwneud cynnydd da o ran cyflawni'r targed uchelgeisiol o 1,000 o gartrefi erbyn 2022.

 

Mae disgwyl y bydd y cyntaf o 600 o dai cyngor newydd y ddinas, sy'n cael eu cyflenwi drwy gynllun Cartrefi Caerdydd, partneriaeth rhwng y Cyngor a'r datblygwr Wates Residential, yn cael eu trosglwyddo o fewn ychydig wythnosau, a bydd tua 65 yn cael eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2019.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng Lynda Thorne:"Bydd Cartrefi Caerdydd yn codi tua 1,500 o gartrefi newydd ledled y ddinas ar dir y Cyngor, a hyd yn hyn, mae Wates Residential ar y safleoedd gyda phum cynllun. Bydd y cynlluniau hyn yn unig yn cyflenwi 135 o gartrefi cyngor newydd.Rydym wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer pum cynllun arall, a bydd y 10 safle hyn yn cyflenwi 195 o gartrefi cyngor newydd a 291 o gartrefi i'w gwerthu ar ôl eu cwblhau.

 

"Yn ogystal ag adeiladu cartrefi cyngor newydd y mae angen mawr amdanynt, mae'r eiddo preifat sydd ar werth yn Llanrhymni gan Cartrefi Caerdydd wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae pob un o'r 30 cartref sydd wedi'i ryddhau hyd yn hyn wedi'u gwerthu cyn eu hadeiladu, yn bennaf i brynwyr lleol.Rwy'n arbennig o falch o lwyddiant y datblygiad hwn gan ein bod wedi profi bod marchnad leol ar gyfer cartrefi newydd fforddiadwy o safon mewn ardaloedd nad ydynt o reidrwydd yn ddeniadol i ddatblygwyr preifat."

 

Hefyd, mae Wales Residential wrthi'n dylunio nifer o safleoedd eraill yn y camau datblygu nesaf, ac mae ymgynghoriadau yn cael eu cynnal ar gynigion ar gyfer hen safleoedd Ysgol Uwchradd Tredelerch, Ysgol Uwchradd Llanrhymni ac Ysgol Howardian.

 

Yn ogystal â chynllun Cartrefi Caerdydd, mae gan y Cyngor raglen adeiladu ychwanegol ac mae'r gwaith ar ddau gynllun arloesol sydd wedi ennill arian grant gan Lywodraeth Cymru yn dechrau'n fuan. Bydd y gwaith yn cynnwys addasu hen gynwysyddion llongau yn fflatiau ar gyfer teuluoedd digartref.

 

Mae dau gynllun adeiladu arall, un i gyflenwi 17 o gartrefi gan ddefnyddio system fodwlar sy'n lleihau amser adeiladu ac yn gwella ansawdd y gwaith adeiladu, ac mae'r llall i gyflenwi cynllun cydymffurfiol PassivHaus yn Highfields yn y Mynydd Bychan, wedi ei roi ar restr fer i ennill cyllid Tai Arloesol eleni.

 

Hefyd, mae'r Cyngor wrthi'n trafod y cynnig i godi 400 o gartrefi cyngor newydd ar safle ailddatblygu Heol Dumballs fel rhan o raglen adeiladu deiliadaeth gymysg mewn ardal lle mae'r galw am dai mwy fforddiadwy'n uchel.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym yn gwneud cynnydd da dros ben tuag at gyflenwi 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2022 ac mae'r gwaith o nodi cyfleoedd i gyflenwi 1,000 o gartrefi eraill wedi hynny yn mynd rhagddo hefyd.Mae'n braf iawn gweld yr holl gyfleoedd datblygu ar y gweill a'r holl waith yn mynd rhagddo'n dda ar nifer o safleoedd yn y ddinas."