Back
Llety Myfyrwyr Newydd yng Nghaerdydd: Cwestiynau Cyffredin

 

1 Pam fod caniatâd cynllunio yn cael ei roi i gymaint o brojectau llety myfyrwyr newydd?

Er bod y niferoedd wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi codi 35% dros y 15 mlynedd ddiwethaf.Dyma gynnydd o bron i 15,000 o fyfyrwyr, sy'n golygu bod tua 65,000 o fyfyrwyr bellach yn nhair prifysgol y ddinas ranbarth bellach.Mae prifysgolion yng Nghaerdydd yn cynnig llety mewn neuaddau preswyl i 25% o gyfanswm poblogaeth y myfyrwyr, felly mae marchnad sylweddol yn y ddinas ar gyfer llety i fyfyrwyr.Mae'r gweithgarwch presennol yn y farchnad ar gyfer cynlluniau dwysedd mawr a safon uchel yn adlewyrchu'r galw hwn.

 

2 A yw'r ddinas mewn perygl o gyrraedd pwynt pan fydd gormod o lety myfyrwyr?

O ystyried yr wybodaeth uchod am niferoedd y myfyrwyr, mae'n anodd pennu pa bryd y bydd y galw'n ddirlawn.Ni fyddai datblygwyr yn ceisio datblygu llety os na fyddai galw neu petai'r datblygiadau'n annichonadwy. Mae adroddiadau'n awgrymu bod llai o fyfyrwyr yng Nghaerdydd yn byw mewn Llety Pwrpasol ar gyfer Myfyrwyr na mewn dinasoedd eraill, sy'n awgrymu bod galw o hyd am y math hwn o ddatblygiad.

 

Swyddogaeth allweddol y ddinas yw sicrhau ein bod yn cael y datblygiadau gorau bosibl, a chadw lefelau'r galw yn fater ar gyfer y datblygwyr cyhyd ag y bo defnydd, cynllun a lleoliad yr adeiladau'n briodol ac yn unol â dyheadau polisi'r Cyngor.Mae'r datblygiadau'n cynnig adeiladau newydd a gwaith yn y ddinas, ond maent hefyd yn helpu i sicrhau bod dewis arall yn hytrach na thai teuluol a gaiff eu defnyddio gan nifer cynyddol o fyfyrwyr.Yn olaf, trwy gyfraniadau adran 106, mae'r datblygiadau'n helpu i ariannu gwelliannau i'r ddinas, yn cynnwys gwelliannau i'r mannau cyhoeddus, gwella parciau a seilwaith cymunedol.

 

3 Hyd yn oed os oes galw ar hyn o bryd, beth os yw hyn yn newid yn y dyfodol?

Os yw llety myfyrwyr yn gostwng yn sylweddol yn y dyfodol, cydnabyddir ei bod yn bosibl y bydd y datblygwyr yn dymuno trosi rhai o'u datblygiadau at ddefnydd arall, megis gwestyau neu fflatiau.Yn yr achos hwn, byddai angen cyflwyno ceisiadau cynllunio ac ystyried pob un yn ôl ei rinweddau cynllunio, sy'n golygu efallai y bydd angen cyfraniadau newydd gan ddatblygwyr.Yn ogystal, câi polisïau megis y rhai sy'n cyfeirio at ddyluniad preswyl a throsi llety yn fflatiau eu hystyried er mwyn sicrhau bod unrhyw lety preswyl yn cyrraedd safon addas.

 

4 Beth yw manteision y projectau llety myfyrwyr newydd hyn o ran casgliadau gwastraff? 

Mae gan adeiladau mawr storfeydd gwastraff ac ysbwriel a chyfleusterau cyffredin eraill sy'n debycach i fflatiau preifat/gwestyau sy'n gwneud rheoli a chasglu gwastraff yn haws na phan fo niferodd uchel o fyfyrwyr mewn strydoedd â thai amlfeddiannaeth.Mae'r adeiladau hefyd yn dueddol o fod yn newydd ac wedi eu codi'n bwrpasol, gan osgoi'r problemau sy'n gysylltiedig â gosod dulliau casglu gwastraff newydd mewn hen adeiladau.Mae'r adran Rheoli Gwastraff yn derbyn llawer yn llai o gwynion am flociau llety myfyrwyr nag am Dai Amlfeddiannaeth.Ceir hefyd un ffynhonnell atebol os caiff gwastraff ei gyflwyno i'w gasglu'n amhriodol pan fo myfyrwyr yn gadael y llety.Caiff y rhan fwyaf o wastraff llety myfyrwyr ei gasglu gan gontractwyr preifat, sy'n golygu bod llai o dynnu ar adnoddau'r ddinas.

 

5 Pa fanteision sydd i fyfyrwyr fyw mewn llety newydd yng nghanol y ddinas?

Mae myfyrwyr yn teimlo'n fwy diogel yn byw yng nghanol y ddinas ac maent hefyd yn nes at fusnesau megis bariau a bwytai, sy'n cynnig cyfleoedd gwaith hyblyg.Fodd bynnag, efallai nad yw rhai myfyrwyr yn dymuno byw yn y math hwn o lety. Y prif fater yw bod datblygiadau newydd yn cynnig dewis yn hytrach na'r sefyllfa flaenorol pan ellid dadlau nad oedd digon o lety myfyrwyr i bawb a'i dymunai.

 

6 Pa effaith gaiff datblygiadau myfyrwyr canol y ddinas ar yr economi leol?

Mae myfyrwyr, datblygiadau myfyrwyr a gweithgarwch cysylltiedig oll yn cyfrannu tuag at economi ddydd ac economi nos ffyniannus. Mae enghreifftiau'n dangos eu bod yn cael effaith bwysig ar economi dinas, yn arbennig ar gaffis, bariau a siopau mewn dinasoedd prifysgol bob blwyddyn.Yn ogystal, mae gan nifer o ddatblygiadau ddefnydd manwerthu (siop/caffi) ar y llawr gwaelod, sydd hefyd yn cyfrannu at gyfleusterau lleol ac yn creu swyddi.Yn ogystal, mae'r cam adeiladu'n aml yn para hyd at flwyddyn, gan gynnig gwaith dibynadwy i lawer o grefftwyr lleol.

 

7 A oes unrhyw fanteision o ran trafnidiaeth?

Oes. Canol y ddinas yw cnewyllyn gweithgareddau prifysgolion, sy'n golygu bod myfyrwyr yn dymuno byw yn y canol.Mae lleoliad cynaliadwy datblygiadau myfyrwyr, yn agos at gyfleusterau, felly'n gostwng y galw ar drafnidiaeth, yn annog teithio actif (cerdded a beicio) ac yn lleihau'r angen i fod yn berchen ar gar.Er nad oes ffigyrau ar gael, mae'n annhebygol bod gan fyfyrwyr mewn fflatiau dwysedd mawr yng nghanol y ddinas gar i'w ddefnyddio oherwydd y nifer cyfyngedig o fannau parcio sydd ar gael.Mae gallu cyrraedd yn hawdd at brif rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn fantais i fyfyrwyr sy'n byw yng nghanol y ddinas.Tra y gall myfyrwyr sy'n byw mewn tai arferol ddisgwyl defnyddio car, mae myfyrwyr mewn llety pwrpasol yn symud gan wybod y bydd mannau parcio'n brin iawn.

 

Yn ogystal, mae'r cyfraniadau gan ddatblygwyr yn aml yn gwella seilwaith trafnidiaeth y ddinas, o safleoedd bysus gwell i groesfannau i gerddwyr.

 

8 Beth sydd o'i le â myfyrwyr yn byw mewn Tai Amlfeddiannaeth?

Nid oes unrhyw beth o'i le â chael Tai Amlfeddiannaeth yn rhan o'r gymysgedd o ran llety myfyrwyr yng Nghaerdydd.Ond, oherwydd y bu diffyg dewis yn y gorffennol, bu gorddibyniaeth a chrynodiad rhy uchel o Dai Amlfeddiannaeth mewn ardaloedd megis Cathays a Phlasnewydd.Mae'r crynodiad rhy uchel o Dai Amlfeddiannaeth yn gwneud yr ardaloedd hyn yn llai deniadol i deuluoedd/aelwydydd bychain oherwydd bod y tai'n aml yn rhy fawr, yn rhy ddrud i'w prynu ac y gall fod problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â chrynodiad uchel o Dai Amlfeddiannaeth.

 

9 A oes modd mynd i'r afael â'r gor-ddibyniaeth ar Dai Amlfeddiannaeth fel rhan o'r broses gynllunio?

Oes. Yn 2016, cymeradwyodd y Cyngor Ganllaw Ategol newydd yn rheoli nifer a lleoliad Tai Amlfeddiannaeth.Nododd y canllaw na ddylai mwy na 20% yr anheddau mewn radiws o 50 metr fod yn Dai Amlfeddiannaeth yn Cathays a Phlasnewydd.Arweiniodd hyn at ddatblygu llai o Dai Amlfeddiannaeth yn yr ardal nag o'r blaen oherwydd na roddir caniatâd cynllunio ar gyfer rhai newydd fel arfer.