Back
Bydd cadis ar gyfer y cynllun ailgylchu gwydr newydd yn dechrau cael eu dosbarthu heddiw.

Bydd 17,000 o gartrefi yn rhan o gynllun ailgylchu gwydr ar wahân mewn ymgais i wella ansawdd y deunydd a gesglir a gwella'r marchnadoedd ailddefnyddio.

Bydd y gwaith o ddosbarthu'r cadis newydd yn dechrau heddiw (1 Hydref) a bydd yr holl breswylwyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn y Radur, Treganna, Pentwyn, Trowbridge a Rhiwbeina yn cael y cadi a'r wybodaeth am y cynllun yr wythnos hon.

Bydd y preswylwyr sy'n byw yn wardiau eraill y cynllun yn cael eu cadi newydd a gwybodaeth am y cynllun yr wythnos nesaf (8-12 Hydref), sef preswylwyr sy'n byw yn Nhrelái, Grangetown, Pen-y-lan, Sblot a'r Mynydd Bychan.

I weld a yw eich cartref yn rhan o'r cynllun, ewch i wefan y Cyngor a defnyddiwch y nodwedd gwirio cod post -https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/casgliadau-gwydr/Pages/default.aspx

Bydd y cadis yn cael eu dosbarthu yn ôl yr amserlen ganlynol:

  • Dydd Llun 1 Hydref - Radur
  • Dydd Mawrth 2 Hydref - Treganna
  • Dydd Mercher 3 Hydref - Pentwyn
  • Dydd Iau 4 Hydref - Trowbridge
  • Dydd Gwener 5 Hydref - Rhiwbeina
  • Dydd Llun 8 Hydref - Trelái
  • Dydd Mawrth 9 Hydref - Grangetown
  • Dydd Mercher 10 Hydref - Pen-y-lan
  • Dydd Iau 11 Hydref - Sblot
  • Dydd Gwener 12 Hydref - Y Mynydd Bychan