Back
Parhau i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon
Mae chwe chamera isgoch bellach yn gweithredu yng Nghaerdydd er mwyn dal pobl yn tipio gwastraff yn anghyfreithlon.

Ers mis Awst eleni, cafodd 23 o hysbysiadau cosb benodedig o £400 yr un eu dosbarthu i droseddwyr ac mae dau achos mwy difrifol yn cael eu paratoi at achos llys.

Mae tipio'n anghyfreithlon ac mae’n difwyno’r cymunedau rydyn ni’n byw ynddynt. Dyma rybudd i’r rhai sy’n troseddu ein bod am gynyddu nifer y camerâu y byddwn yn eu defnyddio i orfodi, ac rydym yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ddal y troseddwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: “Mae pobl yn tipio gwastraff anghyfreithlon er mwyn gwneud arian. Mae’r Cyngor yn darparu’r holl gyfleusterau mae eu hangen i breswylwyr waredu eu gwastraff yn gyfrifol.

 “Yn aml mae'r bobl sy'n troseddu yn drefnus iawn, yn dympio gwastraff o gliriadau tai neu wastraff a gesglir yn rhad ac yn anghyfreithlon o gartrefi pobl.

 “Bellach rydym yn edrych i mewn i’r pwerau sydd ar gael i gipio’r cerbydau a welwn wrth ymchwilio, fel y gallwn eu cymryd oddi ar y ffordd a'u cywasgu.

 “Mae gwaredu tunnell o wastraff mewn safle tirlenwi neu mewn cyfleuster ynni o wastraff yn costio tua £80 y dunnell. Felly os oes rhywun yn cynnig casglu gwastraff o’ch cartref am tua £20, dylech fod yn amheus.

 “Er mwyn casglu gwastraff yn fasnachol, mae’n rhaid bod gennych drwydded cludo gwastraff gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Os yw rhywun yn casglu gwastraff o’ch cartref, gofynnwch am eu trwydded a nodyn trosglwyddo gwastraff.

 “Dylai’r nodyn trosglwyddo gwastraff roi manylion o ble mae’r gwastraff yn cael ei gludo ac i ba gyfleuster gwaredu trwyddedig y mae’r gwastraff yn cael ei gludo. Os yw’r person sy’n casglu’r gwastraff yn gwrthod â darparu’r wybodaeth hon, peidiwch â defnyddio ei wasanaethau. Fel arall os deuir o hyd i'r gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon ac os caiff ei olrhain i'ch cartref chi, chi gewch eich erlyn."

Os yw unrhyw breswylydd yn dyst i dipio anghyfreithlon yn ei gymuned, gofynnir iddo beidio â mynd at y troseddwyr ond dylai nodi manylion yr amser, lleoliad, disgrifiad o’r troseddwyr a manylion cofrestru’r cerbyd a dweud wrth Cysylltu â Chaerdydd ar 2087 2088 fel y gall ymchwiliadau gael eu cynnal.