Back
Cefnogaeth ariannol i gynlluniau i ehangu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £3.85m yn ychwanegol i Gyngor Caerdydd tuag at ariannu cynlluniau'r ddinas i barhau i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg. 

Mae'r cyllid newydd hwn gwerth £3.85m gan Lywodraeth Cymru yn rhan o £51m ychwanegol i gefnogi twf addysg Gymraeg ledled Cymru.Bydd cynlluniau manwl ar gyfer Caerdydd yn cael eu datblygu gan yr awdurdod lleol, ac yn cael eu llywio gan drafodaethau ag ysgolion a'r gymuned ehangach. 

Mae'r £3.85m yn ychwanegol at fuddsoddiad £284m Caerdydd, sydd wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy  Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau manwl hyn i ehangu yn cael eu datblygu, gan greu darpariaeth Gymraeg ychwanegol ar gyfer y ddinas, wrth roi ystyriaeth i anghenion ein hysgolion presennol ar yr un pryd. 

"Rydym am gynyddu'r galw am addysg Gymraeg yn y brifddinas, ac yn ogystal â'n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, mae Caerdydd 2020 - ein gweledigaeth ar gyfer addysg a dysgu yng Nghaerdydd - yn gwneud ymrwymiad clir i ddarparu mwy o leoedd mewn ysgolion Cymraeg, gan sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael i bob teulu sy'n dewis addysg Gymraeg. 

"Ers 2012, mae'r Cyngor wedi creu ysgol uwchradd Gymraeg newydd, ysgol gynradd Gymraeg newydd ac wedi ehangu pedair ysgol gynradd Gymraeg arall ledled y ddinas yn sylweddol. 

"Agorodd ddwy ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon, sef Ysgol Glan Morfa yn Sblot ac Ysgol Glan Ceubal yn Ystum Taf y mis hwn, a bydd y drydedd, Ysgol Hamadryad yn Butetown, yn agor ar ôl y Nadolig. Caiff darpariaeth Gymraeg ychwanegol ei chynnwys yn ein Cynllun Datblygu Lleol hefyd. 

"Mae gan ein Huned Drochi Gymraeg hanes da o helpu teuluoedd sy'n dewis symud o addysg Saesneg i addysg Gymraeg, gan sicrhau cyfnod pontio llwyddiannus."