Back
Cynllun peilot ailgylchu gwydr yn dechrau ddydd Llun

Mae'r cynllun peilot ailgylchu gwydr yn dechrau ddydd Llun mewn ymdrech i wella ansawdd yr ailgylchu a gesglir.

Mae gwydr yn arbennig o anodd ei brosesu gyda mathau eraill o ailgylchu, gan ei fod yn cael ei heintio'n aml gan ddeunyddiau gwahanol ac yn niweidio'r cyfleuster ailgylchu sy'n gwahanu'r cynnyrch.

Oherwydd hyn, mae'r cyngor yn cynnal cynllun peilot 12 wythnos i weld a ydy casglu gwydr ar wahân yn gwella ansawdd y deunydd a gesglir, a fydd yn gwella'r farchnad ar gyfer deunydd y gellir ei ailddefnyddio ac felly'n arbed arian i'r trethdalwr.

Mae 17,000 cartref mewn 10 ward ledled y ddinas yn cymryd rhan yn y cynllun peilot. Mae pob cartref wedi - neu ar fin - derbyn llythyr, ynghyd â chadi glas y gellir ei gloi i roi eu gwydr ynddo. 

Dylai trigolion roi eu gwydr i gyd yn y cadi a'i roi wrth ymyl y ffordd ynghyd â'u gwastraff cyffredinol, lle bydd yn cael ei gasglu bob pythefnos.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'r ddinas yn ailgylchu ar raddfa gynyddol, ond yn ogystal â chyfanswm y deunyddiau sy'n cael eu casglu, rydym hefyd am wella'r ansawdd.

"Dim ond pan gaiff ei werthu i'w ailddefnyddio y mae modd dweud bod mathau gwahanol o wastraff yn cael ei ailgylchu. Gan gymryd gwydr fel enghraifft, pan mae'n cael ei brosesu drwy'r cyfleuster ailgylchu, yn aml mae'n rhaid iddo fynd drwy broses eilradd sy'n golygu bod y cyngor yn talu am ei "ailgylchu.

"Mae ailgylchu yn fusnes, a marchnadoedd yw popeth, gyda phrisiau am wahanol ddeunyddiau yn codi ac yn gostwng. Gobeithio y gallwn ni, drwy gasglu gwydr glanach, gael marchnad gynaliadwy i'r cynnyrch hwn, a chreu incwm mawr ei angen i'w roi yn ôl i mewn i wasanaethau'r Cyngor."

Mae'r Cyngor wedi dadansoddi gwahanol fathau o wastraff y mae trigolion yn eu rhoi allan i'w hailgylchu, ac o ran cyfaint, ychydig iawn o wydr sydd ynddo.

Dewiswyd maint y cynhwysydd i sicrhau ei fod yn ddigonol ar gyfer rhan fwyaf y cartrefi, a phan yw'n llawn, nid yw'n rhy drwm i'n staff casglu gwastraff neu drigolion ei godi.

Os oes angen, gellir rhoi cadi gwydr ychwanegol am ddim i drigolion sy'n rhan o'r cynllun, ond gofynnir iddyn nhw gymryd rhan yn y peilot dros gyfnod o leiaf dau gasgliad i sicrhau bod gwir ei angen.