Back
Dirwyo £5,000 i landlord am fethiannau ‘erchyll’ yn ei eiddo rhent

Ddoe (11 Hydref), plediodd Alvin George Chisholm o Avondale Road yn Grangetown yn euog i 12 cyhuddiad yn Llys Ynadon Caerdydd am gyfres o droseddau o ran eiddo yr oedd yn berchen arno ac yn ei roi ar osod yn Clive Street yn Grangetown.

Ym mis Chwefror eleni, cysylltodd tenant sy'n byw yn 114 Clive Street â'r cyngor i gwyno am gyflwr yr eiddo ac aeth un o swyddogion y cyngor draw i'w arolygu.

Mae'r eiddo'n cynnwys dwy fflat mewn tŷ teras Fictoraidd deulawr.

Pan gynhaliwyd yr arolwg roedd y canfyddiadau'n erchyll. Roedd yr ardd flaen a'r ardd gefn yn llawn sbwriel a gwastraff adeiladwyr; roedd y larwm tân yn ddiffygiol; nid oedd diogelwch tân ar y mesuryddion nwy a thrydan; nid oedd dihangfeydd tân yn yr eiddo; roedd y gegin yn anniogel; nid oedd y pibelli dŵr gwastraff wedi'u cynnal a'u cadw; roedd y system wres heb gael ei chynnal a'i chadw ac roedd gan denantiaid fynediad i'r to gwastad a oedd yn beryglus, ymhlith methiannau eraill.

 

Nid oedd golau naturiol nac awyru yn un o'r ystafelloedd gwely  felly gwnaed Gorchymyn Gwahardd i atal eidefnyddio.

Honnodd Alvin George Chisholm iddo weithio yn y llynges fasnachol a'i fod i ffwrdd naw mis o'r flwyddyn a defnyddiodd asiant gosod yr oedd yn hyderu ynddo. Daeth i'r amlwg yn ystod y gwrandawiad llys iddo ymddeol dair blynedd yn ôl.

 


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: "Mae'r achos hwn yn enghraifft glir o landlord yn gosod eiddo mewn cyflwr cwbl annerbyniol. Mae'r lluniau o'r eiddo'n siarad drostynt eu hunain.

"Hoffwn ei wneud yn glir i bob landlord sy'n meddwl y gall rentu eiddo is-safonol fod angen iddo feddwl eto. Os cawn wybod am y materion hyn, byddwn yn ymchwilio ac yn gweithredu'n briodol er budd y tenantiaid."