Back
Ymgyrch fawr i ailgylchu

Cafodd ffigur anhygoel o 96% o'r holl wastraff a daflwyd yn Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd ei ailgylchu.

Casglwyd 13 tunnell o ailgylchu cymysg; gwastraff bwyd; cardfwrdd; pren a silt ei gasglu gan staff y cyngor ar ran trefnydd y digwyddiad - Rhedeg dros Gymru.

Rhoddwyd podiau ailgylchu ar ddechrau a diwedd pentref y ras, gyda staff wrth law ymhob pod i sicrhau bod y deunydd cywir yn cael ei roi ymhob cynhwysydd.

Cafodd y gwastraff a gasglwyd yna'i ailgylchu drwy brosesau gwahanol a lleoliadau gwahanol.

        Cafodd y gwastraff bwyd ei brosesu yn y safle Treulio Anaerobig ar Rover Way i greu trydan gwyrdd

        Cafodd ailgylchu cymysg ei arwahanu yng Nghyfleuster Ailgylchu Deunyddiau Caerdydd a'i bêlio i'w ailddefnyddio

        Cafodd y gwastraff a gasglwyd o gerbydau glanhau stryd mecanyddol ei anfon i'w safle dad-ddyfrio yn Ffordd Lamby lle didolwyd y deunydd a ailgylchwyd rhag y silt.Yna ailgylchwyd y silt gan Neil Soils a chafodd y deunydd y gellid ei ailgylchu ei ailgylchu

       Cafodd y 4% o wastraff gweddilliol yna'i anfon i gyfleuster adfer ynni modern yn Ocean Way.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:

"Mae digwyddiadau mawr fel hyn yn gyfle gwych i ailgylchu cymaint o wastraff â phosibl. Mae'r ffaith y gallai 96% o'r gwastraff gael ei ailgylchu'n dangos yr hyn y gellir ei wneud a hoffwn ddiolch i'r holl staff a gyfrannodd.

"Mae'r cyngor yn cystadlu'n erbyn cwmnïau preifat eraill i sicrhau contractau ar gyfer digwyddiadau mawr. Drwy'r ffordd newydd hon o weithio gobeithiwn i drefnwyr digwyddiadau eraill weld buddion defnyddio gwasanaethau marchnata'r Cyngor."

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Gwastraff Masnachol Caerdydd ewch i:  https://www.cardiffcommercialwaste.co.uk/