Mae Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Lynda Thorne, wedi croesawu'r cyhoeddiad ddoe bod cynnig yr awdurdod am gyllid y Rhaglen Tai Arloesol wedi bod yn llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Mae'r Cyngor wastad yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu tai mwy fforddiadwy ar gyfer y ddinas ac rwy'n hapus iawn bod ein cynlluniau wedi cael cefnogaeth y Rhaglen Tai Arloesol."
Mae'r Cyngor wedi sicrhau £2.6m ar gyfer dau gynllun a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r pwysau tai presennol yn y ddinas ac yn cyfrannu at nod yr awdurdod o ddarparu 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2022.
Mae'r mentrau llwyddiannus yn cynnwys cynllun ar gyfer 17 eiddo ynni effeithlon - 12 fflat a phump tŷ, wedi'i hadeiladu yn defnyddio system fodwlar ar Croft Street ym Mhlasnewydd a datblygiad amgylcheddol o 30 fflat a 12 cartref cwrt, y cwbl wedi'u hadeiladu i safonau ynni effeithlon 'Passivhaus', ar safle'r hen Ganolfan Highfields yn y Mynydd Bychan.Bydd deg fflat ar gael i'w rhentu gan y Cyngor, tra bydd y gweddill yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored.
Dywedodd y Cynghorydd Thorne, "Mae ein cynlluniau ar gyfer Croft Street a datblygiadau Passivhaus yn arloesol a chyffrous. Mae'r system fodwlar yn hynod ynni effeithlon, yn fwy nac eiddo arferol ac yn gyflymach i'w hadeiladu nag adeiladau traddodiadol felly rydym yn gobeithio arbed llawer o amser ar y safle gan leihau'r effaith ar y preswylwyr presennol a darparu cartrefi newydd yn gyflymach.
"Er ein bod wastad wedi bwriadu datblygu'r deg cartref cyngor newydd ar safle Highfields i safonau Passivhaus, rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod arloesedd datblygiad ehangach y safle hwnnw a bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i brofi'r farchnad ar gyfer gwerthu eiddo Passivhaus yn breifat yno."
Y llynedd, cafodd y Cyngor fwy na £1.2m mewn cyllid Tai Arloesol ar gyfer dau gynllun i ddarparu datrysiadau tai i deuluoedd digartref mewn unedau cynwysyddion llongau.