Back
Cyngor Caerdydd yn ennill gwobr Undeb Credyd


Cydnabuwyd Cyngor Caerdydd am ei ymrwymiad i les ariannol ei weithlu yng ngwobrau Undebau Credyd Cymru.

 

Cyflwynwyd y Cyngor â gwobr yn y categori Partner Cyflogres (Cyhoeddus), sy'n cydnabod cyflogeion sy'n ymrwymedig i'r cynllun partneriaeth cyflogres, mewn seremoni ynAdeilad Y Pierhead, Bae Caerdydd, yn gynharach heddiw.

Roedd y Cyngor ymhlith nifer o sefydliadau a enwebwyd ar gyfer y wobr gan gynnwys Cyngor Wrecsam,Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Torfaen.

Mae'r Cyngor yn gyson wedi bod yn esiampl oarfer gorau o ran hyrwyddo'r defnydd o‘r undeb credyd lleol, Undeb Credyd Caerdydd A'r Fro, i annog lles ariannol yn y gweithle a ledled y ddinas.

Sefydlwyd Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro ym mis Medi 1996 yn Undeb Credyd Cyngor De Sir Forgannwg ac mae wedi dal i ddatblygu partneriaeth gref a pharhaus â staff a'r awdurdod.Mae'r Cyngor wedi rhoi cymorth parhaus i alluogi'r Undeb i ehangu ei wasanaethau, gan gynnwys cynyddu nifer y clybiau cynilion ysgolion yn y ddinas, gwasanaethau lleol mewn hybiau cymunedol, mentrau i denantiaid gynilo a manteisio ar gredyd fforddiadwy a'r cynllun cyflogres i staff.

Dywedodd y Cyng Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:"Mae'n bleser gennym dderbyn y wobr hon gan Undebau Credyd Cymru.Fel Cyngor, rydym yn cydnabod y gwaith a'r gwasanaethau gwerthfawr a wna Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro ar draws y rhanbarth wrth drechu tlodi ac mae'n dyst i ansawdd eu gwasanaethau fod bellach dros 7,500 aelod, gyda bron 2,000 ohonynt yn weithwyr y Cyngor.

 

"Mae mudiad yr Undebau Credyd yn gwneud gwaith gwerthfawr ar draws Cymru ac rydym yn edrych ymlaen i barhau i weithio'n agos gydag Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro yn y dyfodol i fynd i'r afael â thlodi, cyfraddau llog uchel a gwneud economi Caerdydd yn fwy cynhwysol."