Back
‘Llesol i’r amgylchedd ac nid i bocedi’r cyfranddalwyr’


Mae'r Cyngor yn lansio cynllun ailgylchu gwastraff masnachol, sy'n cynnig y gwerth gorau am arian  i gwsmeriaid.

Mae nifer o fusnesau yng Nghymru sy'n cynnig llogi sgip, ond yn aml mae'r pris ar gyfer gwastraff anadweithiol neu ailgylchadwy yr un ag ar gyfer gwastraff cyffredinol.

Trwy gynllun newydd y Cyngor, £96 yw pris rhentu 8 llathen giwbig ar gyfer deunydd megis pridd/baw neu ddeunydd craidd caled/rwbel gyda chost ychwanegol os caiff y sgip ei roi ar y briffordd.

Ar gyfer sgip 0'r un maint, mae pris ar gyfer pren fymryn yn uwch, yn codi i £180, gyda chost ychwanegol unwaith eto os rhoddir y sgip ar y briffordd.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd:

"Mae'r prisiau hyn ar sail ail-hawlio costau prosesu'r deunydd yn hytrach na gwneud elw.

"Mae'r Cyngor yn awyddus i ailgylchu gymaint â phosibl, felly trwy fod yn gystadleuol, rydyn ni'n bwriadu cynyddu ein cyfran o'r farchnad, a fydd o fudd i'r amgylchedd ac nid i bocedi cyfranddalwyr.

"Byddwn hefyd yn dal i gynnig gwasanaeth ar gyfer gwastraff cymysg, am £240 fesul sgip 8 llathen giwbig. Mae hyn yn dal i fod yn rhatach na'n cystadleuwyr, ond nid yw'r gwahaniaeth gymaint ag yn achos y sgipiau deunydd anadweithiol ailgylchadwy.

"Gall y Cyngor ddefnyddio ein cyfleusterau gwastraff, neu mae gennym gontractau ar waith sy'n sicrhau y caiff gwastraff ei drin yn gyfrifol. Felly gyda'r prisiau eithriadol o rhad hyn, gallwn roi sicrwydd meddwl i gwsmeriaid na chaiff eu gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon na'i gladdu mewn safle tirlenwi."

Am ragor o wybodaeth ar wasanaethau gwastraff masnachol y Cyngor, ewch i: https://www.cardiffcommercialwaste.co.uk/?lang=cy

Os bydd unrhyw gwmni yn gosod sgip ar y briffordd, mae ffi i'w thalu am drwydded. £35 yw pris trwydded 7 niwrnod, a £70 am 28 diwrnod.

Caiff y telerau ac amodau llawn a manylion y prisiau a'r gwasanaethau sydd ar gael eu hegluro'n glir ar adeg y prynu.