Back
Dwyn gridiau carthffos yn costio miloedd o bunnoedd i drethdalwyr

Mae 125 o gridiau carthffos y ddinas wedi cael eu dwyn ers canol mis Gorffennaf.

Mae gridiau wedi cael eu dwyn yn Llanedern, yr Eglwys Newydd, Trelái, Pentre-baen, Pentwyn, y Tyllgoed ac yn ddiweddar yn Radur a Rhiwbeina.

Mae'r gost i drethdalwyr i ddiogelu a gosod gridiau newydd yn eu lle bellach wedi cyrraedd tua £43,000. Mae'r gridiau sydd wedi cael eu dwyn yn cael eu gosod â fframiau newydd ac nid oes modd eu codi.

Gofynnir i'r cyhoedd gadw golwg yn eu cymunedau a rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad amheus drwy ffonio 101, gan roi disgrifiad o'r bobl sy'n dwyn a manylion cofrestru'r cerbyd y maen nhw'n ei yrru.

Drwy weithio gyda Heddlu De Cymru, bydd swyddogion safonau masnach a thrwyddedu bellach yn targedu gwerthwyr metel sgrap i wirio a yw'r busnesau hyn yn cydymffurfio â'u hamodau trwyddedu.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i werthwyr metel sgrap ddilyn y weithdrefn gywir wrth brynu neu werthu sgrap. Mae'n anghyfreithlon prynu neu werthu sgrap am arian parod a rhaid talu drwy drosglwyddiad electronig er mwyn gallu olrhain y taliadau a wnaed at ddibenion archwilio.

Rhaid i'r rheiny sy'n prynu neu'n gwerthu metel sgrap feddu ar drwydded gan yr awdurdod lleol i weithredu, a chadw cofnodion o ddisgrifiad y nwyddau sy'n cael eu prynu neu eu gwerthu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rhaid rhoi terfyn ar y lladradau hyn. I roi'r broblem hon mewn cyd-destun, mae 30 ohonynt wedi cael eu dwyn yn yr wythnos ddiwethaf. Yn ogystal â'r gost sylweddol o osod gridiau newydd yn eu lle, mae eu dwyn yn gadael twll mawr ger ochr y ffordd sy'n beryglus dros ben i yrwyr ac i gerddwyr."

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu, sy'n gyfrifol am Safonau Masnach yng Nghaerdydd: "Mae ein neges i'r busnesau'n syml. Os na fyddai modd o werthu'r gridiau hyn, ni fyddent yn cael eu dwyn yn y lle cyntaf. Felly pan fyddwn yn ymweld â'r gwerthwyr metel sgrap i gael golwg ar eu cofnodion, a byddwn yn sicr o wneud hynny, rydym yn gobeithio y bydd popeth mewn trefn neu byddwn yn cymryd camau priodol."