Back
Adolygu cynigion am reoliadau cŵn

 

 

Mae cynnig i wahardd cŵn o gaeau chwaraeon wedi'u marcio yn ystod y tymor chwaraeon yn annhebygol o fynd yn ei flaen yn ôl Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd.

 

Yn siarad ar ôl ymgynghoriad chwe wythnos ar fesurau gorfodi arfaethedig i atal baw cŵn ym mharciau a mannau cyhoeddus y ddinas, dywedodd yr Aelod Cabinet dros  Ddiwylliant a Hamdden, y Cyng.Peter Bradbury:"Rydym wedi cael ymateb aruthrol i'r ymgynghoriad ac rydym wrth gwrs wedi sylwi ar deimladau cryf y cyhoedd yn erbyn cynigion i wahardd cŵn o gaeau chwaraeon ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn.

 

"Ar ôl asesu'r holl wybodaeth sydd ar gael a chanlyniadau'r ymgynghoriad, bydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad ffurfiol ar ddechrau'r flwyddyn newydd.Ond, yn fy marn bersonol i, ar ôl trafod gyda fy nghydweithwyr Cabinet, mae'n annhebygol o fynd yn ei flaen gyda'r elfen hon o'r cynigion."

 

Canolbwyntiodd yr ymgynghoriad ar gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) a allai gynnwys:

 

  • gofyniad bod perchenogion cŵn neu'r person sy'n gyfrifol am gŵn yn gwaredu baw cŵn ym mhob man cyhoeddusa berchnogir a/neu a gynhelir gan y Cyngor.'
  • gwahardd cŵn mewn meysydd chwarae amgaeedig, caeau chwaraeon wedi'u marcio ac ysgolion a berchnogir a/neu a gynhelir gan y Cyngor,
  • gofyniad y cedwir cŵn ar denynnau mewn mynwentydd a berchnogir a/neu a gynhelir gan y Cyngor,
  • gofyniad sy'n galluogi swyddogion awdurdodedig i orchymyn bod ci (neu gŵn) yn cael ei roi a'i gadw ar dennyn os oes angen.
  • gofyniad bod perchenogion cŵn/pobl sy'n mynd â chŵn am dro yn cludo bagiau neu ffyrdd addas eraill o waredu baw cŵn.
  • cynyddu'r hysbysiad cosb benodedig o £80 i £100, a allai godi i £1,000 os na chaiff ei dalu.

 

 

Dywedodd y Cyng. Bradbury:"Mae gennym rôl allweddol o ran cadw ein mannau agored cyhoeddus yn ddiogel ac yn lân fel y gall pawb eu mwynhau ac rydym yn parhau i boeni am ddiogelwch plant a defnyddwyr chwaraeon trwy ddefnyddio ein parciau a'n mannau cyhoeddus gan fod baw cŵn yn broblem sylweddol.

 

"Mae lleiafrif o berchenogion cŵn yn achosi problemau trwy beidio â glanhau ar ôl eu cŵn neu drwy fethu â'u cadw dan reolaeth ac rydym yn derbyn cannoedd o gwynion bob blwyddyn am y broblem.

 

"Nid oedd y cynigion y gwnaethom ymgynghori arnynt yn cynnwys gwahardd cŵn o barciau neu fannau cyhoeddus a byddent ond wedi effeithio ar tua 10 y cant o fannau agored gwyrdd yn y ddinas.Y tu allan i'r tymor chwarae perthnasol, byddai perchenogion wedi gallu ymarfer eu cŵn ar gaeau chwarae yn y ddinas o hyd.

 

"Ond, roedd hyn i gyd yn ymwneud ag ymgynghori gyda'r bwriad o gasglu barn y cyhoedd i lywio'r gwaith o ddatblygu GDMC.

 

"Byddwn nawr yn adolygu ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn gweithio'n agos gyda chlybiau chwaraeon y ddinas a'r gymuned cerdded cŵn i ddod o hyd i ffordd ymlaen i sicrhau bod ein mannau cyhoeddus a gwyrdd yn ddiogel ac yn lân i bawb."

 

Cyflwynir canlyniad yr ymgynghoriad ac argymhellion ar y GDMC ar gyfer rheoli cŵn i'r Cabinet i'w ystyried yn y Flwyddyn Newydd.