Back
Euog am gyfres o droseddau yn ymwneud â gwerthiant anghyfreithlon ar dybaco

Cafwyd dinesydd o'r Iorddonen, Ali Adalrawish, 29, yn byw ar Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd, yn euog ddoe yn Llys Ynadon Caerdydd o 11 trosedd yn ymwneud â masnachu tybaco a sigarennau yn anghyfreithlon o'i siop ar Clifton Street.

Roedd Mr Adalrawish eisoes wedi pledio'n euog ar ran y cwmni Best European Foods Limited i'r 11 trosedd mewn gwrandawiad blaenorol ar 7 Medi 2018.

Gohiriwyd y ddedfryd tan wedi'r achos ddoe, am iddo bledio'n ddi-euog i'r un troseddau fel cyfarwyddwr ei siop - Best European Foods Limited.

Daeth y troseddau i'r amlwg pan aeth swyddogion safonau masnach ar gyrch i Best European Foods ar Clifton Street ym mis Gorffennaf 2017 gyda chŵn synhwyro cyffuriau.Canfuwyd saith bag, gan gynnwys casyn dillad a phecyn popeth yng nghefn y siop a oedd yn cynnwys dros 30,000 o sigarennau a 6.3kg o dybaco, gyda gwerth ar y stryd o rhwng £3,500 a £7,000.

Roedd y sigarennau a'r tybaco naill ai yn rhai ffug neu heb doll wedi eu talu arnynt ac nid oedd y rhybuddion iechyd arnynt fel y mae'r gyfraith yn mynnu.Atafaelwyd y nwyddau anghyfreithlon a dechreuodd Cyngor Caerdydd ar yr erlyniad cyfreithiol.

Ym mis Mawrth 2018, ymwelodd swyddogion safonau masnach â'r siop unwaith eto a chanfod 120 pecyn o sigarennau anghyfreithlon a 49 cwdyn baco yn cael eu gwerthu y tu ôl i'r cownter.Atafaelwyd yr holl nwyddau anghyfreithlon.

Honnodd Mr Adalrawish mai rheolwr ac nid cyfarwyddwr ar y cwmni ydoedd adeg y cyrch cyntaf.Ar yr ail achlysur cydnabu mai ef oedd y cyfarwyddwr ond nid oedd yn y siop pan ddigwyddodd y cyrch, felly roedd o'r farn y dylai'r cyfrifoldeb orwedd ar ysgwyddau'r rheolwr a gyflogwyd ganddo.

Yn yr achos ddoe, dadleuodd Clive Pursey, tra'n cynrychioli Cyngor Caerdydd i Mr Adalrawish bledio'n ddieuog fel y cyfarwyddwr, oherwydd y ffaith ei fod yn bwriadu gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig ac y byddai unrhyw euogfarn droseddol yn gallu peryglu ei gais.

Yn dilyn yr euogfarn ddoe rhoddwyd gorchymyn cymunedol o 12 mis ar Mr Adalrawish a 120 awr o wasanaeth cymunedol; fe'i dirwywyd £750; ei orchymyn i dalu costau o £650; a gordal dioddefwr o £85.

Derbyniodd y cwmni ddirwy o £1000, gorchymyn i dalu costau o £100 a gordal dioddefwr o £100. Gorchmynnwyd i'r holl sigarennau a thybaco i gael eu difa.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y Cyng. Michael Michael:"Fel y gŵyr pawb, mae ysmygu yn ddrwg dros ben i chi, ond nid yw tybaco a sigarennau ffug yn cael eu rheoleiddio o gwbl a does neb yn gwybod beth yn union sydd ynddynt.

"Mae'r achos hwn yn enghraifft rhagorol o'n swyddogion safonau masnach yn gweithredu ar gudd-wybodaeth er mwyn tynnu nwyddau anghyfreithlon o'r farchnad.Mae'r cŵn synhwyro cyffuriau wedi eu hyfforddi yn arbennig i ganfod sigarennau a thybaco, felly ein neges i'r rheiny sy'n gwerthu'r nwyddau hyn yw nad oes unrhyw fodd y gallant eu cuddio nhw.

"Boed nhw'n ceisio'u cuddio nhw mewn waliau, y tu ôl i ddrychau neu luniau, bydd y cŵn yn dod o hyd iddynt.Bydd ein cyrchoedd yn parhau a byddwn yn mynd a phob achos ger bron y llys a byddwn yn erlyn."