Bydd Morglawdd Bae Caerdydd ar gau i’r cyhoedd er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar Ddydd Mawrth 13 a Dydd Mercher 14 Tachwedd rhwng 8.30am - 5pm.
Bydd y llwybr ar agor o
ochr Bae Caerdydd hyd at y Llwybr Pysgod a Chaffi Hafren. Bydd yr ardal chwarae
a’r Parc Sglefrio yn aros ar agor.
Fodd bynnag, ni fydd
mynediad i ac o ochr Penarth o’r Morglawdd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros
Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:“Yn anffodus, tra bod gwaith cynnal a chadw pwysig
yn cael ei wneud ar y Morglawdd, ni allwn roi mynediad i'r cyhoedd am resymau
diogelwch.Gobeithio, gyda digon o rybudd
am y gwaith, y gall holl ddefnyddwyr y llwybr gynllunio llwybrau gwahanol.Bydd y parc sglefrio a’r ardal chwarae yn aros ar
agor – gallwch gael mynediad o ochr Bae Caerdydd o’r Morglawdd.”