Back
Achub adeiladau treftadaeth Caerdydd at genedlaethau'r dyfodol

Mae cost uchel rhedeg rhai o adeiladau mwyaf hanesyddol ac enwog Caerdydd yn golygu y bydd Caerdydd yn mynd ati i edrych ar ffyrdd newydd a dyfeisgar o ddiogelu eu dyfodol heb roi straen anghynaladwy ar gyllidebau'r Cyngor, sydd eisoes o dan straen.

Mae adroddiad i Gabinet y Cyngor yn dweud bod yr awdurdod wedi ymrwymo'n llwyr i amddiffyn gorffennol y ddinas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond bod angen iddo edrych ar atebion arloesol gan adeiladu ar bartneriaethau gyda'r sector preifat, er mwyn sicrhau y caiff rhai o adeiladau mwyaf eiconig Caerdydd eu cynnal a'u cadw'n briodol.

Ar hyn o bryd mae gan adeiladau treftadaeth y ddinas, gan gynnwys Neuadd y Ddinas, y Plasty, y Theatr Newydd, Neuadd Dewi Sant a'r Eglwys Norwyaidd, ôl-groniad o ran cynnal a chadw o £24 miliwn a chostau gweithredu net o ryw £2.6 miliwn y flwyddyn.

Mae adroddiad y Cyngor, a fydd yn mynd gerbron y Cabinet ddydd Iau, 15 Tachwedd, yn galw am ganiatâd i ddilyn trefniadau sector preifat newydd a threfniadau partneriaeth eraill sy'n debyg i rai a ddaeth â'r Gyfnewidfa Lo a'r Tramshed yn ôl yn fyw. Credir y gallai bargeinion tebyg ddileu ôl-groniadau cynnal a chadw a lleihau costau gweithredu wrth gadw perchnogaeth rhydd-ddaliadol y cyngor a diogelu dyfodol yr adeiladau.

Mae syniadau cychwynnol a amlinellir yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Rhentu'r Theatr Newydd yn uniongyrchol i weithredwr masnachol;
  • Troi'r Plasty yn westy bwtîc;
  • Dod ag atyniadau newydd i Gastell Caerdydd gan gynnwys Arddangosfa Teithiau Ffilm Doctor Who mewn partneriaeth â BBC Worldwide.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae'r adeiladau hyn yn emau yng nghoron Caerdydd. Gyda chyllidau llywodraeth leol wedi'u cwtogi gan galedi, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau eu dyfodol yn yr hirdymor. Mae gwaith rydym wedi'i wneud eisoes gyda'r sector preifat wedi sicrhau bod rhai o adeiladau gorau'r ddinas a oedd yn agos at gael eu colli yn cael eu hadfer a'u hadfywio.

"Mae'r Gyfnewidfa Lo, a oedd mewn cyflwr ofnadwy, bellach ar agor fel gwesty. Daethpwyd â Chwrt Insole yn ôl yn fyw ac felly hefyd Neuadd Llanrhymni ac mae depo tramiau adfeiliedig Gradd II ar Clare Road wedi dod yn lleoliad cerddoriaeth a chelfyddydol ffyniannus o'r enw The Tramshed. Mae'r rhain yn enghreifftiau clir o sut gall partneriaethau ddarparu ar gyfer y ddinas, gan ddiogelu ein hadeiladau treftadaeth mwyaf gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Yr hyn y byddaf yn ei gyflwyno i'm cydweithwyr yn y Cabinet yw syniadau newydd ar sut gallwn ni gynnal a chadw'r adeiladau hyn trwy weithio gyda'r sector preifat a phartneriaid eraill. Mae'n rhaid i ni weithredu gyda ffocws ar fusnes gan nad yw'r costau cynnal a chadw a gweithredu yn gynaliadwy."

Oherwydd oedran yr adeiladau mae'r gost o'u cynnal a'u rhedeg yn sylweddol ac mae'n codi'n barhaus. Mae'r adroddiad yn dweud, er mwyn cadw'r sefyllfa fel y mae, gan sicrhau bod yr adeiladau'n ddiogel i'w defnyddio gan y cyhoedd, bydd gofyn am gynnydd o £1.2 miliwn y flwyddyn at gyllideb refeniw y Cyngor. Byddai hyn yn mynd â chost gyffredinol gweithredu adeiladau treftadaeth y Cyngor i tua £3.8 miliwn y flwyddyn.

Caiff yr adroddiad, ar beth y gellir ei wneud i ddiogelu dyfodol Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, y Plasty, y Theatr Newydd, Neuadd Dewi Sant, yr Hen Lyfrgell a'r Eglwys Norwyaidd, ei gyflwyno i'r Cabinet yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd.

Castell Caerdydd

Y castell canoloesol a'r plasty diwygiad gothig Fictoraidd yw'r pwysicaf a'r mwyaf eiconig o holl asedau hanesyddol y ddinas. Mae'r adeilad, y mae'r Cyngor yn berchen arno ac yn ei weithredu, wedi derbyn buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf ond mae ganddo ôl-groniad cynnal a chadw sylweddol o hyd. Mae gweithredu'r adeilad yn ennill arian, ond mae gofyn am ragor o atyniadau i ymwelwyr er mwyn ariannu'r ôl-groniad cynnal a chadw parhaus.

Caiff dau atyniad newydd eu rhoi ar waith erbyn haf 2019 - Black Tower Tales, mewn partneriaeth gydag Unusual Expo a'r Doctor Who Film Tours Exhibition mewn partneriaeth gyda BBC Worldwide.

Gofynnir i'r Cabinet ganiatáu i swyddogion adnabod atyniadau a digwyddiadau a allai gynhyrchu incwm i'r Castell a sicrhau y caiff unrhyw incwm ychwanegol a gynhyrchir ei ddiogelu er mwyn mynd i'r afael â chostau cynnal a chadw parhaus.

Neuadd y Ddinas

Mae Neuadd y Ddinas yn dirnod eiconig a oedd yn gartref i'r awdurdod lleol o 1906. Mae gan yr adeilad ddau ddefnydd - mae gan staff y cyngor swyddfeydd yno o hyd ond mae'r lle wedi dyddio. Mae angen buddsoddiad cynhwysfawr ar systemau mecanyddol a thrydanol yr adeilad.

Hefyd defnyddir y lleoliad ar gyfer priodasau a chynadleddau, sy'n creu incwm, ond gorbwysir hyn o bell ffordd gan y gost weithredol o redeg yr adeilad. Gyda chynlluniau ar y gweill i holl staff y cyngor gael eu lleoli mewn Neuadd y Sir fodern newydd, nodwyd nifer o ddefnyddiau masnachol, gan gynnwys y posibilrwydd o le ar gyfer swyddfeydd masnachol newydd a gofod cynadledda.

Gofynnir i'r Cabinet ddarparu awdurdod i ddatblygu gwerthusiad manwl o'r opsiynau yn rhestru holl oblygiadau ariannol y cynigion hyn a gaiff eu cyflwyno'n ôl i'r Cabinet yn ddiweddarach.

Y Plasty

Y Plasty yw cyn-gartref yr Arglwydd Faer ac erbyn hyn caiff ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer cyfarfodydd. Mae'r llawr gwaelod mewn cyflwr cymharol dda, ond mae ar y lloriau uwch angen buddsoddiad sylweddol i ddod â nhw yn ôl i ddefnydd.

Ar hyn o bryd mae'r adeilad yn rhedeg ar golled.

Mae'r adroddiad yn amlygu posibilrwydd i'r adeilad gael ei droi'n westy bwtîc, gan gynnig hyd at 20 ystafell.

Gofynnir i'r Cabinet ddarparu awdurdod i swyddogion ystyried y ffyrdd mwyaf priodol i ddenu buddsoddiad a lleihau'r rhwymedigaeth ariannol wrth gynnal mynediad y cyhoedd at yr adeilad.

Y Theatr Newydd

Mae'r theatr bellach yn 110 oed ac mae angen buddsoddiad arni. Cafodd gwaith cynnal a chadw hanfodol ei wneud er mwyn sicrhau y gall yr adeilad aros ar agor ar gyfer y cyhoedd. Mae angen cymhorthdal gan y Cyngor er mwyn ei gweithredu o ddydd i ddydd.

Gofynnir i'r Cabinet ddarparu awdurdod i swyddogion archwilio'r posibilrwydd o rentu'r adeilad i gwmni theatr, gan leihau'r cymhorthdal.

Neuadd Dewi Sant

Ni ystyrir Neuadd Dewi Sant yn adeilad hanesyddol, ond mae'n adeilad cyhoeddus pwysig yng nghanol y ddinas ac mae ganddo ôl-groniad o atgyweiriadau cynnal a chadw. Mae'r Cyngor yn cymorthdalu Neuadd Dewi Sant ac mae angen buddsoddiad ar yr adeilad.

Oherwydd ei leoliad, mae cyfleoedd i agor y pedair uned manwerthu ar lefel y stryd ac ymgorffori'r unedau hyn yn ôl i mewn i'r prif adeilad i gynyddu nifer yr ymwelwyr. Byddai hyn wedyn yn galluogi siopwyr i gael mynediad at y neuadd trwy flaenau'r siopau.

Gofynnir i'r Cabinet roi awdurdod i swyddogion ddatblygu cynnig moderneiddio manwl.

Yr Hen Lyfrgell

Mae hwn yn adeilad rhestredig sy'n perthyn i'r Cyngor ac mae wedi'i leoli mewn prif leoliad yn yr Aes yng Nghanol y Ddinas. Gofynnir i'r Cabinet ddarparu awdurdod i swyddogion ymchwilio i ddefnyddiau masnachol a fydd yn talu am holl gostau rhedeg yr adeilad. Bydd y swyddogion yn dychwelyd i'r Cabinet gyda chynnig manwl maes o law ar gyfer penderfyniad terfynol.

Yr Eglwys Norwyaidd

Yn wreiddiol roedd yr Eglwys Norwyaidd yn eglwys Lutheraidd a gysegrwyd ym 1868 ac a roddodd le i addoli i forwyr Sgandinafaidd a'r gymuned Norwyaidd yng Nghaerdydd am dros gant o flynyddoedd. Bellach mae'n adeilad eiconig ar lannau dŵr Bae Caerdydd.

Mae'r adeilad yn derbyn cymhorthdal bach gan y Cyngor ac, er mwyn i'r adeilad gyrraedd ei lawn botensial, mae angen buddsoddiad sylweddol yn yr adeilad ei hun ac yn yr ardal yn syth o'i amgylch.

Mae gan yr adeilad botensial mawr ac mae yna ddiddordeb masnachol sylweddol.

Gofynnir i'r Cabinet roi awdurdod i swyddogion archwilio a sicrhau tenant masnachol a fydd yn buddsoddi yn yr adeilad, dileu'r ôl-groniad cynnal a chadw a sicrhau na fydd rhaid i'r Cyngor dalu cymhorthdal.