Back
Gwobr arbennig ar gyfer Tresillian Tigers


 

Mae tîm pêl-droed o un o hosteli digartref Caerdydd wedi cael ei gydnabod am yr ysbryd sydd gan y chwaraewyr wrth chwarae'r gêm.

 

Cyflwynwyd gwobr Chwarae Teg i'r tîm sy'n cynrychioli hostel canol y ddinas y Cyngor Tŷ Tresillian ar gyflwyniad diwedd tymor Pêl-droed Stryd Cymru am eu sbortsmanaeth da, eu hymroddiad a'u hagwedd gadarnhaol tuag at chwarae'r gêm.

 

Cafodd y tîm cymysg ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl o dan arweiniad swyddog nos y gwasanaethau hosteli, Keith Hopkins, i gynnig ffocws i'r trigolion a helpu i feithrin cyfeillgarwch a cheisio goresgyn unigrwydd. 

 

Mae'r tîm yn chwarae yng nghynghrair y dwyrain Pêl-droed Stryd Cymru yn erbyn timau o hostelau eraill yn y rhanbarth ac mewn cyfnod byr o amser, maent wedi mwynhau cryn lwyddiant, gydag un aelod o'r tîm, Katherine Lewis, yn cael ei dewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Digartref y mis hwn ym Mecsico.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Llongyfarchiadau i Tresillian Tigers am y cyflawniad gwych hwn.Mae'r ffordd rydych chi'n chwarae'r gêm yr un mor bwysig â'r canlyniad terfynol ac felly rwy'n falch iawn o weld y tîm yn cael ei gydnabod fel hyn.

 

"Rwy'n gwybod fod bod yn rhan o'r tîm wedi cael effaith go iawn ar y trigolion Tresillian dan sylw.Mae llawer o unigolion digartref yn mynd drwy gyfnodau o ynysu felly mae chwarae yn y tîm a chael ffocws wedi bod o gymorth mawr iddynt.Mae Keith wedi gwneud gwaith gwych, yn gweithio gyda'r tîm ar y cae ac oddi arno er mwyn sicrhau eu bod yn cyflwyno delwedd gadarnhaol."

 

Cyflawniadau'r Tresillian Tigers yw'r newyddion da diweddaraf i bêl-droed ddigartref yn y ddinas, ar ôl y cyhoeddiad fis diwethaf y bydd Cwpan y byd y digartref y flwyddyn nesaf yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd.