Back
Ymgynghoriad ar gyllideb Caerdydd yn agor wrth i'r Cyngor geisio cau bwlch ariannol o £35.2m

 


Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar sut y gall y Cyngor bontio bwlch yn y gyllideb o £35.2m y flwyddyn nesaf (2019/20).

 

Gofynnir i drigolion ystyried rhes o argymhellion i arbed a syniadau i greu incwm gan gynnwys:

  • Sicrhau tenant theatr ar gyfer yTheatr Newydd;
  • Cynyddu costau claddedigaethau ac amlosgiadau;
  • Trosglwyddo asedau parciau, megis ystafelloedd newid, i grwpiau chwaraeon;
  • Cynyddu dirwyon am ollwng sbwriel yn y ddinas; ac
  • Edrych ar ffyrdd o leihau cymorthdaliadau i ddigwyddiadau mawr yng Nghaerdydd.

 

Cyfanswm cyllideb bresennol y Cyngor yw £609 miliwn, ond mae 65% o hyn (£397 miliwn) yn cael ei wario ar hyn o bryd ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r ddau faes yn wynebu pwysau galw cynyddol wrth i boblogaeth y ddinas dyfu gan gyfrannu at fwlch yn y gyllideb o £35.2m y flwyddyn nesaf a £93m dros y tair blynedd nesaf.

 

C:\Users\c080012\Desktop\Budget_graphic_CYM.jpg

 

Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Nid yw sôn diweddar am ddiwedd llymder a mwy o arian i'r sector cyhoeddus yn wirionedd y bydd unrhyw un ym maes llywodraeth leol yn ei adnabod.  Mae'n nonsens llwyr.  Yn anffodus, mae ein cyllideb mewn termau real yn cael yn ei thorri eto fyth. Mae cynghorau ledled y DU dan bwysau cynyddol a'r gwasanaethau mae ein dinasyddion yn dibynnu arnynt fydd yn dwyn baich y llymder peryglus hwn nad oes olwg y daw i ben.

 

 

"Derbyniodd y Cyngor hwn gynnydd o 0.4% mewn cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf - dim ond £1.6m ydy hynny - ond mae angen i ni ddod o hyd i £36.8m er mwyn cynnal gwasanaethau rheng flaen ar y lefelau presennol. Mae hynny'n ein gadael gyda bwlch yn y gyllideb o £35.2m i'w bontio ar ôl rhoi cyfrif am y 1.6m ychwanegol.

 

"Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dangos sut rydym yn bwriadu pontio'r bwlch hwnnw. Rydym am gael barn trigolion ar y syniadau hyn a'u help i flaenoriaethu'r gwasanaethau sydd o bwys iddynt."

 

Mae'r ymgynghoriad ar y Gyllideb yn nodi targed arbedion o £19.4m ar gyfer 2019/20. Gellir pontio'r bwlch yn y gyllideb - £15.8m - trwy'r dulliau canlynol:

  • Cynyddu'r Dreth Gyngor.  Mae strategaeth y gyllideb yn cynnwys rhagdybiaeth o 4.3% ond gallai hyn newid ar ôl setliad terfynol y gyllideb ym mis Rhagfyr;
  • Defnyddio£4m o arian wrth gefn; Rhyddhau mecanwaith gwydnwch ariannol gwerth £4m;
  • Gosod cap ar dwf cyllideb ysgolion (nid yw hyn yn doriad i gyllideb ysgolion. Mae'r cynnig yn rhoi £10.2m o arian ychwanegol i ysgolion y flwyddyn nesaf, sydd yn cyferbynnu'n llwyr â'r rhan fwyaf o feysydd eraill y Cyngor lle mae cyllidebau'n cael eu torri).

 

Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Mae pob 1% yn y Dreth Gyngor yn codi tua £1.35m, felly byddai cynnydd o 4.3% yn codi £5.8 miliwn.  Nid yw hyn yn dod yn agos at ariannu'r galw cynyddol a chostau ein gwasanaethau'r flwyddyn nesaf. Rwy'n deall pam bod pobl yn gofyn pam bod angen i ni gynyddu'r Dreth Gyngor, ond heb ei godi ni fyddai unrhyw ddewis arall gennym ond torri gwasanaethau megis parciau, llyfrgelloedd neu gasgliadau gwastraff hyd yn oed yn fwy.

 

"Mae rhyw £231m - 38% o gyfanswm ein cyllideb - yn cael ei ddirprwyo i ysgolion i'w reoli. Rydym yn ceisio amddiffyn yr arian rydym yn ei roi i ysgolion rhag maint yr arbedion mae adrannau eraill y Cyngor wedi gorfod eu gwneud, ond wrth i lymder barhau, mae hyn yn mynd yn gynyddol anos ei wneud.  Yn ein cyllideb rydym yn cynnig rhoi £10.2m yn ychwanegol i ysgolion y flwyddyn nesaf a fydd yn gynnydd blynyddol o 4.4%. Fodd bynnag, mae'r cynnydd mewn disgyblion a chyflogau yn ogystal â phwysau chwyddiannol eraill yn golygu, er ein bod yn cynyddu'r arian a roddir i ysgolion, ei bod yn parhau yn setliad anodd i'n hysgolion. Dyma wirionedd plaen, ac effaith go iawn, llymder ar ein gwasanaethau cyhoeddus."

 

Cyflawnir yr arbedion o £19.4m mewn pum modd. Mae'r Cyngor yn bwriadu creu bron i £2m drwy gynhyrchu incwm; £2.5m trwy gydweithredu â chyrff eraill y sector cyhoeddus i arbed arian; bron i £8m trwy ail-ymweld â phrosesau busnes; £3.4m trwy adolygu gwariant allanol a £3.5m arall trwy roi mesurau atal ac ymyrraeth gynnar sy'n fwy effeithiol ar waith.

 

Yn allweddol i'r mesurau atal ac ymyrryd y mae gweithio gyda theuluoedd gan roi'r cymorth cywir ar yr adeg iawn cyn cyrraedd pwynt o argyfwng gan leihau'r angen i blant dderbyn gofal a datblygu gwasanaeth maethu newydd er mwyn cynyddu'n sylweddol ar nifer y gofalwyr maeth yng Nghaerdydd.

 

Mae'r syniadau canlynol hefyd ymysg y cynigion ar gyfer arbedion a refeniw:

                      Dod o hyd i denant theatr preifat ar gyfer y Theatr Newydd gan arbed £404,000;

                      Cynyddu cost amlosgiadau o £560 - £640 a chladdedigaethau o £660 - £760;

                      Cynyddu dirwyon gollwng sbwriel o £80 i £100

                      Cynyddu'r awtomeiddio i ymholiadau cwsmeriaid gan arbed £300,000

                      Ceisio lleihau cymorthdaliadau ar gyfer digwyddiadau

 

Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Rydym yn uchelgeisiol dros ein prifddinas. Rydym eisiau i Gaerdydd fod yn lle gwych i fyw ynddo ac yn lle gwych i wneud busnes, ac mae ein hagenda Uchelgais Prifddinas yn dangos rhaglen y credwn a fydd yn cyflawni'r pethau sydd wirioneddol o bwys i'n trigolion.

 

"Rydym dal am wella ysgolion, ffyrdd a seilwaith trafnidiaeth y ddinas, yn ogystal â chynigion hamdden a thai'r ddinas ac rydym yn mynd i roi help llaw i greu swyddi fel y gall pawb rannu'r buddion yr hoffem eu cyflwyno i'n dinas. Ond mae'r toriadau hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r Cyngor flaenoriaethu. Bydd unrhyw gynnydd i'r Dreth Gyngor dim ond o'r braidd yn ein galluogi i dalu am y gwasanaethau statudol y mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i'w darparu. Mae cydbwyso'n dyheadau ar gyfer y ddinas gyda'r angen i barhau i dorri cyllidebau yn anodd. Mae ein cyfnod ymgynghori â thrigolion bellach ar agor ac rwy'n annog pobl i gymryd rhan. Mae angen i ni glywed eu barn ar y gwasanaethau sydd fwyaf gwerthfawr iddyn nhw."

 

Bydd yr ymgynghoriad yn para chwe wythnos o ddydd Gwener 16 Tachwedd tan 2 Ionawr. Gall trigolion gymryd rhan ar-lein trwy fynd i brif wefan y Cyngor a bydd copïau papur o'r ddogfen ymgynghori ar gael mewn hybiau, llyfrgelloedd ac yn adeiladau'r Cyngor.