Back
Bydd cynlluniau i leihau plastigau untro'n cael eu trafod gan y Cabinet

Bydd dod o hyd i ffyrdd o dorri lawr yn sylweddol ar y defnydd o blastigau untro ledled y ddinas yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 15 Tachwedd.

Bydd y Cabinet yn trafod y mater mewn ymateb i gynnig a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Mawrth, oedd yn galw ar y Cabinet i drafod ffyrdd o reoleiddio plastigau untro.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:"Mae plastigau untro'n blastigau tafladwy sydd ond yn cael eu defnyddio unwaith cyn iddynt gael eu gwaredu neu eu hailgylchu.Ymhlith yr eitemau hyn mae pethau fel bagiau plastig, ffyn gwlân cotwm, troellwyr coffi, gwellt, poteli dŵr a phecynnau bwyd.

"Mae plastigau untro wedi bod yn y wasg yn aml yn ddiweddar, ac rydym yn ymwybodol am y swm enfawr o eitemau plastig nad ydynt yn cael eu hailgylchu, sydd felly'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd.

"Mae hyn yn fater sy'n effeithio ar bawb.Rydym eisiau i swyddogion greu cynllun gweithredu fyddai'n lleihau plastigau untro yn ein dinas.Pan fydd gennym ychydig o gynigion clir byddwn yn mynd â nhw at yr aelod er mwyn ymgynghori i sicrhau eu cefnogaeth."

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithio gyda grwpiau cymunedol gan gynnwys Cadwch Gymru'n Daclus, Grŵp Afonydd Caerdydd a Carwch Eich Cartref sy'n helpu'r awdurdod i waredu, casglu ac ailgylchu plastigau o'n cyrsiau dŵr ac o amgylch ardal y bae.

Dywedodd y Cynghorydd Michael, ynghyd â pharhau â'r gwaith gyda grwpiau cymunedol mae hefyd eisiau i'r Cyngor edrych ar amryw fesurau all helpu i leihau'r defnydd o blastigau untro yn yr awdurdod ei hun, gan osod esiampl i fusnesau eraill.

Ychwanegodd:"Hoffwn ddiolch i'r grwpiau cymunedol am yr holl waith da y maen nhw'n ei wneud yn yr ardal hon a hoffwn roi gwybod iddynt nhw fy mod i'n eu cefnogi yn eu dyhead i greu dinas werddach.Byddaf yn rhoi tasgau i swyddogion i edrych ar ffyrdd y gall y Cyngor leihau defnydd plastigau untro yn yr awdurdod yn y lle cyntaf ac edrych ar sut gallwn ni hyrwyddo deunyddiau amgen ledled y ddinas i'r dyfodol."

Ymhlith rhai o'r syniadau sy'n cael eu trafod mae:

  •            Gweithio gyda Refill i hyrwyddo gorsafoedd ail-lenwi dŵr.Mae eisoes 72 o leoliadau yng Nghaerdydd sy'n cynnig dŵr tap am ddim, gan gynnwys llyfrgelloedd a Hybiau'r Cyngor.Bydd y Cyngor yn ceisio cyllid i osod gorsafoedd ail-lenwi mewn safleoedd eraill.
  •            Cynnal adolygiadau i farchnadoedd ailgylchu deunyddiau anodd megis teiars ceir, cwpanau coffi untro, ffenestri dwbl UPVC a phlastigau caled.Mae prawf ailgylchu polystyren eisoes wedi'i gynnal a bydd gofyn i'r Cyngor barhau i ymchwilio i farchnadoedd ailgylchu.
  •            Parhau i weithio gyda phartneriaid i leihau effeithiau negyddol plastigau untro, gan gynnwys ein partneriaid dinas allweddol.
  •            Lleihau defnydd poteli plastig untro yn adeiladau'r Cyngor a gwaredu eu defnydd mewn digwyddiadau a hyrwyddir neu a gynhelir gan y Cyngor.
  •            Rhoi'r gorau i ddefnyddio cynnyrch plastig untro eraill yn adeilad y Cyngor gan ddechrau â (ond heb fod yn gyfyngedig i) ‘gwpanau tafladwy', cyllyll a ffyrc a gwellt yfed. 

Ychwanegodd y Cyng Michael:"Drwy ddrafftio polisi plastig rydym yn ceisio arwain drwy esiampl, gan leihau ein defnydd o blastigau untro, wrth annog pobl eraill i gymryd camau tebyg.Rydym eisoes wedi cymryd camau i weithredu hyn, ond rydym yn cydnabod bod llawer o waith i'w wneud i amddiffyn ein hamgylchedd."