Back
Gwella fflyd glanhau stryd a rheoli gwastraff y Cyngor

Mae disgwyl i Gaerdydd fanteisio ar fflyd newydd o gerbydau glanhau stryd a rheoli gwastraff a fydd yn rhoi hwb i gyfraddau ailgylchu a helpu i leihau allyriadau gan wella ansawdd yr aer yn y ddinas.

 

Bydd y fflyd newydd yn cynnwys saith ar hugain o gerbydau casglu gwastraff newydd; 7 o gerbydau casglu gwastraff bwyd; 4 cerbyd codi bachog; 1 codwr sgip a 12 cerbyd glanhau stryd a bydd cerbyd glanhau stryd trydan yn cael ei dreialu yng nghanol y ddinas hefyd.

 

Bydd y fflyd newydd o gerbydau casglu gwastraff yn defnyddio’r peiriant Euro 6 diweddaraf sy’n lleihau allyriadau Nitrogen Ocsid 77% ac hefyd yn torri ar allyriadau parddu 66% o’i gymharu â’r peiriant Euro 5.

 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: Mae lleihau allyriadau traffig ein fflyd yn flaenoriaeth. Rydym eisoes wedi datgan ein bwriad i drosi ein fflyd o gerbydau bychain, i ffwrdd o ddisel a phetrol i danwydd arall erbyn 2022 ac rydym am i’n cerbydau nwyddau trwm gael eu trosi erbyn 2030.

 

“fel rhan o’r caffael hwn roeddem am sicrhau nad oeddem wedi ein clymu i’r cerbydau hyn am gyfnod penodol o amser fel y gallwn roi prawf ar gerbydau newydd a thechnoleg newydd a allai roi cerbydau hyd yn oed yn lanach pan fyddant ar gael. Mae’n bwysig ein bod yn gallu addasu’n gyflym wrth i dechnoleg wella.”

 

Bydd y 12 cerbyd glanhau stryd yn ymddangos ar strydoedd y ddinas yn y lle cyntaf, wedyn daw’r cyflenwad o gerbydau casglu gwastraff newydd a’r cerbydau casglu gwastraff mwy eu maint.

 

Ychwanegodd y Cyng Michael: “Dylai’r cerbydau newydd wella dibynadwyedd casgliadau gwastraff ar draws y ddinas, gan leihau ar nifer y cerbydau sy’n torri sy’n nodwedd ar gerbydau hŷn o ganlyniad i’r llwyth gwaith dwys y maent yn ei wynebu bob dydd. Bydd cerbydau’n torri yn lleihau yn sylweddol a fydd yn gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth yn sylweddol a’n helpu ni i gyrraedd targedau ailgylchu.”