Back
Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Tonga ar 17 Tachwedd

Bydd Cymru'n herio Tonga yn nhrydedd gêm Cyfres Under Armour yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn yma.

Bydd y gêm yn cychwyn am 2.30pm, felly bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 11.30am a bydd ffyrdd canol y ddinas i gyd ar gau o 11.00am tan 5.30pm.

Dyma'r amseroedd y bydd y Cyngor yn gallu cau'r ffyrdd. Os nad yw canol y ddinas mor brysur â'r disgwyl am 11.00am, byddwn yn aros cyn cau'r ffyrdd; ond caiff yr holl wybodaeth ddiweddar ei chyhoeddi ar dudalen Twitter y Cyngor @cyngorcaerdydd. 

Bydd mesurau diogelwch uwch yn weithredol yn Stadiwm Principality felly dylai pawb sy'n dod i Gaerdydd i wylio'r gêm roi digon o amser i ddod i'r ddinas ac i'r stadiwm.

Dylai cefnogwyr rygbi adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi'u gwahardd yn  principalitystadium.wales  cyn iddyn nhw ddod i'r ddinas.

Ceir gwybodaeth fanwl gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn y briff cyfryngau hwn.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy'r dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

O 4.00pm, bydd system wrthlif ar Station Terrace i adael i ffans sy'n ciwio aros am eu trên yn ddiogel yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.

Bydd modd i gerbydau adael maes parcio Canolfan Siopa Capitol drwy Stryd Ogleddol Edward/Rhodfa'r Orsaf tua'r gogledd, tuag at Heol Casnewydd/Dumphries Place.

Sylwch: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Trenau

Mae Network Rail yn rhoi gwybod i gwsmeriaid nad oes gwaith peirianneg wedi'i gynllunio yng Nghymru, felly ni ddisgwylir tarfu ar y llinell rhwng Llundain a Chaerdydd.

Mae gwaith peirianneg yn cael ei wneud yng ngorllewin Lloegr, felly bydd teithwyr sy'n teithio o Loegr i Gymru drwy orsaf Bristol Temple Meads yn cael bws i orsaf Bristol Parkway i barhau ar eu taith i Gaerdydd.

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw yn www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd. Dylai'r rhai sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm ddod mor gynnar â phosibl. Bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng Ngorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch i  www.tfwrail.wales/events    

Ar ôl y gêm, dylai cefnogwyr sydd am deithio adref ar wasanaethau lleol Caerdydd a'r Cymoedd ddefnyddio Caerdydd Heol-y-Frenhines. Dylai cwsmeriaid y prif linellau, gan gynnwys gwasanaethau Glynebwy a Maesteg, ddefnyddio gorsaf Caerdydd Canolog.

Parcio a Theithio Digwyddiadau - Lecwydd

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 yr M4 a dilyn yr arwyddion i Leckwith Road.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -  https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/park-ride-and-premium-parking-for-wales-vs-tonga-15769 

Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os cadwch le ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig). Os cadwch le ymlaen llaw, bydd angen i chi argraffu eich cadarnhad a'i roi i aelod o staff pan gyrhaeddwch.

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 6.30pm a bydd y maes parcio'n cau am 7pm.

Traffyrdd a chefnffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a'r ffyrdd sy'n arwain i Gaerdydd fod yn brysur iawn.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Pris: £15 i'w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Sylwch: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 6.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Pris: £15 ar y dydd (arian parod yn unig) yn y maes parcio neu £12 os gadwch le o flaen llaw -  https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/park-ride-and-premium-parking-for-wales-vs-tonga-15769 

Amseroedd parcio:Mae'r maes parcio ar agor am 8.00am a bydd yn rhaid i bob car fod oddi yno neu wedi arddangos tocyn talu ac arddangos erbyn dydd Sul, 18 Tachwedd.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall pobl sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd parcio a theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11.00am ac yn ailagor o 5.30pm
 
Bws

 
Bysus lleol: 
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd sydd ar gau, bydd bysus y dwyrain naill ai'n mynd i Ffordd Churchill a bysus y gogledd yn mynd i Heol y Brodyr Llwydion.

Oherwydd gwaith parhaus yn Despenser Street, ni fydd mynediad i Fitzhamon Embankment. O ystyried hyn, ni fydd modd defnyddio'r pwynt lloeren arferol ar gyfer gwasanaethau sy'n mynd i orllewin Caerdydd, sef Stryd Tudor.

Mae Bws Caerdydd yn rhoi gwybod y bydd gwasanaethau ar gyfer y gorllewin yn gadael o Taff's Mead Embankment. Y gwasanaethau fydd yn terfynu yma yw: 92/94, 95, 96; 61, 8/9A, X45; 25, 63, 66; a 13, 17/18

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.