Back
‘Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau tenantiaid’

 

Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau trigolion drwy gydymffurfio'n effeithiol â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

 

Daeth adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru, yn adolygu trefniadau'r Cyngor ar gyfer bodloni a chynnal SATC i'r casgliad bod dull yr awdurdod wedi'i integreiddio'n dda yn ei swyddogaeth tai ac mae pwyslais cryf ar ofal cwsmeriaid yn y ffordd y mae'r Cyngor yn trin tenantiaid.

 

 

Canfu'r adolygiad, a oedd yn cynnwys grwpiau ffocws gyda staff a thenantiaid y cyngor, fod gan y Cyngor wybodaeth gynhwysfawr am gyflwr ei stoc tai a bod rhaglen ar waith sydd wedi'i hariannu ac y gellir ei chyflawni er mwyn cwblhau atgyweiriadau a gwelliannau.Yn 2012, Caerdydd oedd y Cyngor cyntaf i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru - y safon darged gyffredin ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir i'r holl denantiaid cymdeithasol fabwysiadu'r safon a chreu rhaglenni i godi safon eu tai i SATC cyn gynted â phosibl, ond erbyn 2020 fan bellaf, yn ogystal â chynnal y safonau yn y dyfodol.

 

Mae'r adroddiad yn nodi bod y Cyngor wedi canolbwyntio yn barhaus ar ansawdd y tai y mae'n berchen arnyn nhw ynghyd ag ymrwymiad cyson i fuddsoddi yn y stoc tai, gyda chynlluniau â rhychwant eang i gefnogi'r uchelgais o gynnal y SATC.Mae rhaglenni treigl ar gyfer amnewid ffenestri a drysau, gwella toeau a thu allan y tai, yn ogystal ag uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi, yn rhan o waith y Cyngor i gynnal y safonau gan gynnwys rhaglen fuddsoddi gwerth oddeutu £15 miliwn ar gyfer 2018/19.

 

Rhoddwyd hefyd canmoliaeth i'r Cyngor yn yr adolygiad am y ffordd y cwblha atgyweiriadau brys yn ei gartrefi gyda mwy na 12,300 wedi eu cyflawni yn ystod 2017/18 - gwaned 99% ohonynt o fewn 24 awr.

 

Yn ogystal â'r uchod, amlygwyd yn yr adroddiad y cysylltiadau effeithiol â thenantiaid, y rhaglenni adfywio ystadau helaeth, datblygu'r hybiau cymunedol, a hefyd agwedd ragweithiol y Cyngor at yr her fawr o fynd i'r afael â chladin na chyrhaeddodd safonau diogelwch tân yn chwech o'i adeiladau blociau uchel, a'r gwelliannau sylweddol i gynlluniau llety gwarchod.

 

Cafwyd hefyd sylwadau cadarnhaol gan denantiaid a holwyd yn rhan o'r adolygiad, gyda 73% yn datgan eu bod yn fodlon ar y gwaith SATC a gyflawnwyd yn eu cartrefi, 79% yn fodlon ar eu cymdogaeth fel lle i fyw ynddo, a 88% yn dweud y gallant gysylltu â'r gwasanaeth tai yn gyflym ac yn rhwydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Balchder mawr i ni fu bod y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru yn 2012 ac rydym ni'n ymrwymo i gynnal y safon er mwyn sicrhau bod ein tenantiaid yn byw mewn eiddo o ansawdd dda.

 

"Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru sy'n cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad y gwasanaeth tai yn ogystal â'r dull cyfannol y mae'r gwasanaeth yn ei fabwysiadu i gynnig tai da i bobl y ddinas.

 

"Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy ac mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol ar waith am 1,000 o dai cyngor newydd erbyn 2022, yn ogystal â 1,000 o dai newydd y tu hwnt i hyn, ond mae'n hollbwysig ein bod yn cynnal ein stoc tai a'n hystadau cyfredol a buddsoddi ynddynt.

 

"Rwy'n arbennig o falch o gasgliad yr adroddiad ein bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau trigolion a bod y tenantiaid eu hunain yn teimlo'n hapus gyda chyflwr eu cartrefi a'r gwelliannau rydym ni'n eu gwneud."