Caerdydd yn Las ar gyfer Diwrnod Plant y Byd!
Heddiw yw diwrnod lansio ein Strategaeth Caerdydd sy’n
Dda i Blant i gyd-fynd â Diwrnod Plant y Byd.Mae creu dinas a chymunedau sy'n gyfeillgar i blant yn golygu ymrwymiad diamheuol
a pharhaus i hawliau plant.Mae'n ymwneud â chreu a
chynnal lleoedd lle y mae lleisiau, anghenion, blaenoriaethau a hawliau plant
yn rhan annatod o bolisïau, rhaglenni a phenderfyniadau cyhoeddus.Bydd lansiad #CDYDDsynDdaiBlant yn digwydd yn ddiweddarach heddiw yn Neuadd
y Ddinas – a fydd yn cael ei oleuo'n las i ddathlu Diwrnod Plant y Byd.Ymhlith y rhai fydd yn bresennol bydd wyth ysgol sy'n parchu hawliau yng
Nghaerdydd gydag aelod Cabinet dros Addysg, cyflogaeth a Sgiliau a Dirprwy
Arweinydd y Cyng Sarah Merry, y Cyfarwyddwr Addysg Nick Batchelar a Chadeirydd
y Bwrdd Iechyd Maria Battle yn siarad yn y digwyddiad.Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig gan ysgolion o gân a
hunan-gyfansoddwyd.
Dysgwch fwy am y strategaeth yma
Diwrnod plant y byd – diwrnod a ddethlir ar 20 Tachwedd
bob blwyddyn i hyrwyddo undod rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymysg plant ar draws y
byd, a gwella lles plant.Y thema eleni yw #GoBlue
– lle mae pawb yn cael eu hannog i ddathlu'r diwrnod drwy wisgo dillad neu ategolion
glas a rhannu gyda'r byd ar gyfryngau cymdeithasol drwy ychwanegu'r hashnod
#GoBlue Dysgwch fwy yma https://www.unicef.org/world-childrens-day
Gwyliwch arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas ac aelod Cabinet dros Addysg,
Cyflogaeth a Sgiliau a Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Sarah Merry yn siarad am
Ddiwrnod Plant y Byd a'n strategaeth Strategaeth Caerdydd sy’n Dda i Blant.
Gwyliwch Cadeirydd Bwrdd
Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, Rose Melhuish a’r Aelod Bwrdd, Naz Ismail yn
disgrifio’r newidiadau y gellid eu gweld yng Nghaerdydd ar ôl i’r ddinas ddod
yn un o Ddinasoedd sy’n Dda i Blant Unicef.