Back
Buddsoddiad i Fenter Ailgylchu

Mae cyfleuster ailgylchu sy'n trwsio ac wedyn gwerthu nwyddau gwerth uchel mewn un o ganolfannau ailgylchu'r ddinas wedi cael cefnogaeth ariannol yn dilyn cystadleuaeth fewnol ar gyfer staff Cyngor Caerdydd.

Cynigir y Wobr Entrepreneuriaeth sydd newydd gael ei chyflwyno, gan y darparwr hyfforddiant mewnol Academi Cyngor Caerdydd, ac mae'n caniatáu i aelodau staff ddatblygu sgiliau megis ymchwil farchnad a chreu Cynllun Busnes effeithiol ar gyfer syniadau a all greu incwm ym meysydd gwasanaeth y Cyngor.   Daw'r cwrs i derfyn gyda chyfle i wneud cynnig o flaen panel o feirniaid i ennill buddsoddiad gwerth £1000 er mwyn rhoi'r syniad ar waith.

Yr enillydd diweddaraf yw Daniel Fegan, Cynrychiolydd Gwasanaethau Cwsmeriaid yng nghanolfan alwadau Cyngor Caerdydd "Cysylltu â Chaerdydd", a fu'n llwyddiannus gyda'i syniad o greu menter ailgylchu o'r enw "Y Sied" yng nghanolfan ailgylchu Bessemer Close.

Esboniodd Daniel wrth y beirniaid sut y gellid atgyweirio a gwerthu rhai nwyddau o werth uchel sy'n cael eu cludo i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Yn ogystal â hynny, cyflwynodd gynllun i gynnal gwasanaeth atgyweirio yn y ganolfan fel y gall trigolion dalu ffi benodol am drwsio nwyddau sydd wedi torri.

Dywedodd Daniel: "Yn hytrach na mynd â nwyddau i safleoedd tirlenwi, byddwn yn ceisio eu gwerthu mewn siop o'r enw "Y Sied" a fyddai ar gael i'n holl drigolion ac ymwelwyr.  Rwyf wedi mwynhau'r cwrs hwn sy'n cael ei gynnal gan yr Academi, gan ei fod wedi rhoi cyfle imi ddatblygu sgiliau newydd fel cynnal ymchwil i'r farchnad na fyddwn wedi eu dysgu yn fy swydd arferol."

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Arnaf i fel beirniad roedd y gwaith heriol o ddewis enillydd. Mae'n rhaid imi ddweud ein bod wedi ein syfrdanu gydag ansawdd yr holl gyflwyniadau a wnaed o'n blaenau a bydd pob un ohonyn nhw yn parhau i gynnig syniadau i'w datblygu wrth fwrw ymlaen. Ond, dim ond un all fod yr enillydd a syniad Daniel oedd yr un mwyaf cyflawn a mwyaf posibl yn ein barn.  Hoffwn longyfarch Daniel a phawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth hon, sef Gwobr Cyflwyniad i Entrepreneuriaeth."

Mae Planhigfeydd Parc Bute a Thrac Rasio Motocross Caerdydd wedi ennill y buddsoddiad £1000 yn flaenorol.