Back
Datganiad y Cyngor ar Guildford Crescent

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Huw Thomas:"Mae'r cyngor hwn wedi ymrwymo i gefnogi cerddoriaeth fyw yn y ddinas ac mae'n bwysig i mi ein bod yn gwneud popeth y gallwn i helpu lleoliadau fel Gwdihw, sy'n chwarae rhan enfawr yn sîn ffyniannus annibynnol a diwylliannol ein dinas, i oroesi. Rwy'n gwybod bod y lleoliad wedi postio twît yn dweud ei fod yn dymuno parhau yn y ddinas a'i fod yn chwilio am le newydd. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i'w helpu i chwilio a byddaf yn gofyn i swyddogion gysylltu â nhw er mwyn trafod unrhyw leoliad newydd posibl sydd ar gael.

 

"Cymerwyd y penderfyniad i ddod â'r prydlesi ar Guildford Crescent i ben gan y landlord. Nid oes gennym unrhyw bwerau i rwystro hwn, ond byddwn yn ceisio siarad â'r landlord i weld a ellir gwneud unrhyw beth.

 

"Y llynedd, llwyddodd y Cyngor i ymyrryd i helpu amddiffyn lleoliadau cerddoriaeth ar Heol Womanby. Er bod y sefyllfa hon yn fwy cymhleth, rydym eisiau cael pob parti ynghyd i drafod ffordd ymlaen."