Back
Tocynnau nawr ar werth ar gyfer Gŵyl Lên Plant Caerdydd 2019, yn dilyn noson lansio David Baddiel

Daeth dros 350 o gefnogwyr hen ac ifanc i'r digwyddiad lansio yn Neuadd y Ddinas i glywed David yn siarad am ei stori antur ddoniol ddiweddar am wireddu dymuniadau, Head Kid, sy'n un o bum llyfr difyr iawn ganddo i ddarllenwyr ifainc, sydd wedi gwerthu dros 1,000,000 o gopïau.

Y digwyddiad hwn oedd lansiad Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2019, sy'n rhaglen dros bythefnos o 30 Mawrth - 7 Ebrill. Mae'n dathlu goreuon llyfrau plant cyfoes gyda digwyddiadau Cymraeg a Saesneg i blant o bob oed.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gŵyl 2019 fydd y seithfed Ŵyl Llên Plant flynyddol. Mae'n ddigwyddiad sy'n siŵr o ddiddori darllenwyr ifanc trwy gynnig rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau dros bythefnos wefreiddiol.

"Mae'r ŵyl wedi tyfu bob blwyddyn ac mae'n dal i ysgogi a chyffroi plant o bob oed, gan annog awch am lyfrau a darllen. Bydd hefyd yn denu ystod o awduron a darlunwyr penigamp a phoblogaidd."

Rhowch dân ar ddychymyg eich plentyn, a'i awch am ddarllen dros y Nadolig drwy brynu tocynnau ar gyfer Gŵyl Llên Plant Caerdydd y flwyddyn nesaf. Dyma syniad gwych i lenwi hosan: caiff plant a phobl ifanc weld eu hoff awduron a darlunwyr yn y byw, pan ddônt hwythau â'u geiriau a'u lluniau'n fyw.

Mewn lleoliadau eiconig ledled y ddinas, gyda straeon a pherfformiadau anhygoel yn gynnwys criw o gymeriadau ardderchog, byddai tocyn yn wych i lenwi hosan Nadolig unrhyw un sy'n dwlu ar lyfrau plant. Mae tocynnau ar gyfer Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2019 bellach ar werth yn www.cardiffkidslitfest.com

I gael rhagor o wybodaeth am Ŵyl Llên Plant Caerdydd ewch i https://www.cardiffkidslitfest.com/cy/

@GwylLlenPlant