Back
Y diweddaraf ar gasglu compost dros dymor y Nadolig

Ni fydd compost gwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu rhwng 27 Rhagfyr a 6 Ionawr yn rhai o wardiau'r ddinas.

Y rheswm dros hynny yw galluogi'r criw casglu i ganolbwyntio ar wastraff cyffredinol, ailgylchu a gwastraff bwyd, sydd tipyn yn fwy dros dymor y Nadolig.

Ni fydd compost yn cael ei gasglu yn y wardiau canlynol rhwng y dyddiad a roddir isod:

  • Butetown a Grangetown - o 27 Rhagfyr tan 22 Ionawr
  • Gabalfa a Cathays - o 28 Rhagfyr tan 23 Ionawr
  • Adamsdown a Sblot - o 29 Rhagfyr tan 24 Ionawr
  • Yr Eglwys Newydd - o 30 Rhagfyr tan 25 Ionawr
  • Radur, Pentyrch a Thongwynlais - o 31 Rhagfyr tan 28 Ionawr
  • Felindre, Llandaf ac Ystum Taf - o 2 Ionawr tan 29 Ionawr
  • Plasnewydd ac Pentwyn - o 3 Ionawr tan 30 Ionawr
  • Pontprennau, Llanrhymni a Phentref Llaneirwg - o 4 Ionawr tan 31 Ionawr
  • Llanisien - o 5 Ionawr tan 1 Chwefror 

Bydd modd i drigolion fynd ag unrhyw gompost ychwanegol i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Ffordd Lamby neu yn Bessemer Close.

Gellir torri coed Nadolig yn ddarnau a'u rhoi yn y bin ailgylchu gwyrdd neu mewn sachau amldro a fydd yn cael eu casglu ar y diwrnod casglu compost nesaf. Fel arall, gellir mynd â choed Nadolig i unrhyw un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Yr oriau agor ar gyfer CAGC Ffordd Lamby a Bessemer Close dros y Nadolig yw:

  • 22 Rhagfyr - 9.30am tan 6.00pm
  • 23 Rhagfyr - 9.30am tan 6.00pm
  • 24 Rhagfyr - 9.30am tan 4.00pm
  • 25 Rhagfyr - Ar gau
  • 26 Rhagfyr - Ar gau
  • 27 Rhagfyr - 9.30am tan 6.00pm
  • 28 Rhagfyr - 9.30am tan 6.00pm
  • 29 Rhagfyr - 9.30am tan 6.00pm
  • 30 Rhagfyr - 9.30am tan 6.00pm
  • 31 Rhagfyr - 9.30am tan 6.00pm