Back
Dros £ 100k wedi'i godi ar gyfer elusen yr Arglwydd Faer hyd yn hyn


Mae'rGwirAnrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng Dianne Rees, wedi rhagori ar y targed o godi £100k i'w helusen, gyda phedwar mis yn weddill yn y swydd.

Mae swm syfrdanol o £104,591.22 eisoes wedi'i godi ar gyfer Apêl Bywydau Bach elusen Arch Noa ers i'r Cynghorydd Dianne Rees gael ei hurddo fel Arglwydd Faer ym mis Mai 2018. Mae'r llwyddiant wedi arwain at osod targed newydd o £150k, i'w gyflawni cyn mis Mai 2019.

Dywedodd yr Arglwydd Faer:"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi a dweud fy mod wrth fy modd gyda'r cyfanswm a godwyd hyd yn hyn.Mae wedi bod yn wych gweld sut mae staff Cyngor Caerdydd, ein cynghorwyr ac aelodau'r cyhoedd wedi cyfrannu'n hael ac wedi helpu i gyflawni'r swm anhygoel hwn o arian."

Mae gweithgareddau codi arian wedi cynnwys llu o ddigwyddiadau gydag uchafbwyntiau yn cynnwys yr Her Fawr Elusennol a welodd yr holl roddion yn dyblu a chodwyd £69,850, Cinio Eog, cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn Y Plasty a gêm griced lle'r oedd staff y Cyngor yn herio cynghorwyr.

Mae staff Cyngor Caerdydd hefyd wedi cefnogi'r ymgyrch gyda thîm o'r adran addysg yn cerdded lan Pen y Fan ym mis Hydref, gan godi £4837.43. Mae staff wedi gwneud rhoddion ar-lein ac mae digwyddiadau fel noson gyri a chasgliadau bwced wedi helpu tuag at godi symiau sylweddol o arian i'r elusen.

Mae'r Apêl Bywydau Bach yn cefnogi uned newydd-anedig Ysbyty Athrofaol Cymru i gynnig gofal penigamp i rai o'r babanod a enir yn gynnar a'r rhai sy'n ddifrifol wael yng Nghymru. 

Aeth yr Arglwydd Faer yn ei blaen i ddweud:"Dewisais Ysbyty Plant Arch Noa gan i'r staff ardderchog gael argraff mor dda arnaf, ac maen nhw'n canolbwyntio ar anghenion y plant."Mae plant mor bwysig i Gaerdydd a'i dyfodol felly mae'n hanfodol eu bod yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Roedd 2018 yn dathlu 18 mlynedd o elusen Arch Noa ac yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd fe wneis i addo i helpu i godi eu proffil yn ystod y flwyddyn arbennig hon, yn ogystal â chodi cymaint o arian â phosibl oedd ei angen yn ddirfawr drwy helpu i gynnal digwyddiadau arbennig a mynychu digwyddiadau allweddol yng nghalendr yr elusen.Bydd 2019 yn flwyddyn gyffrous arall, gyda llawer mwy o gyfleoedd codi arian yn yr arfaeth i godi cymaint o arian â phosibl ar gyfer yr achos teilwng iawn hwn."

Dywedodd Cyfarwyddwr Elusen Arch Noa, Suzanne Mainwaring:"Mae wedi bod yn anrhydedd mawr gweithio gyda'r Arglwydd Faer dros y misoedd diwethaf. Mae'r Apêl Bywydau Bach yn bwysig iawn iddi ac mae wedi gweithio'n ddiflino i godi arian ac ymwybyddiaeth o'r achos. 

"Mae'r £100,000 a godwyd gan yr Arglwydd Faer hyd yma eisoes yn cael ei ddefnyddio'n dda, gan ariannu offer sy'n achub bywydau sy'n helpu babanod sy'n cael eu geni'n gynnar ac sy'n ddifrifol wael i anadlu, tyfu a gwella. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi a'r staff yng Nghyngor Caerdydd, sydd hefyd wedi dangos cefnogaeth wych, eto yn 2019."

Bydd digwyddiadau a gynllunnir ar gyfer 2019 yn cynnwys Taith Gerdded Fawr Cymru, her codi arian yn dechrau ym Machynlleth ddydd Sadwrn, 11 Mai ac yn diweddu ym Mae Caerdydd chwe diwrnod yn ddiweddarach, gan fynd â cherddwyr drwy rai o'r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Nghymru.Am fwy o wybodaeth ewch ihttps://noahsarkcharity.org/greatwelshwalk/

Yna, bydd yr Arglwydd Faer yn cynnal Dawns Gala yn Neuadd y Ddinas ddydd Gwener 17 Mai i nodi diwrnod olaf y daith gerdded. 

Bydd elusen Arch Noa yn helpu i greu presennol mwy disglair a dyfodol gwell i'r 73,000 o blant sy'n cael eu trin yn Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghymru bob blwyddyn.Ei nod yw sicrhau'r canlyniad a'r profiad gorau posibl i blant a theuluoedd drwy ddarparu cyllid ar gyfer y cyfarpar a'r cyfleusterau diweddaraf.Mae hefyd yn ariannu gwasanaethau cymorth i deuluoedd megis y tîm chwarae arbenigol, sy'n helpu plant i fyw plentyndod er gwaethaf eu hanawsterau.

Yn rhan o'u hymrwymiad parhaus i sicrhau'r gofal arbenigol gorau posibl i blant, yn ddiweddar lansiodd yr elusen yr Apêl Bywydau Bach gyda'r nod o godi £1 miliwn ar gyfer yr uned newydd-anedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.Bydd yr arian a godir gan yr Arglwydd Faer yn ystod yr ymgyrch yn cael ei wario ar offer achub bywydau arbenigol fel peiriannau anadlu, sy'n helpu babanod cynamserol neu ddifrifol wael i anadlu.

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Bywydau Bach Arch Noa ewch iwww.noahsarkcharity.org/tinylives

Byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn rhoddion.https://www.justgiving.com/campaigns/charity/chfw/lordmayorofcardiff

 

Anfonwch sieciau, yn daladwy i ‘Elusen Arglwydd Faer Cyngor Caerdydd' i:

Swyddfa Brotocol
Y Plasty
Richmond Road
CaerdyddCF24 3UN.

Os ydych am drefnu digwyddiad codi arian i gefnogi Elusen yr Arglwydd Faer, e-bostiwch:ProtocolOffice@cardiff.gov.ukneu ffoniwch029 2087 1543.