Back
Datganiad Cyngor Caerdydd ar bebyll yng nghanol y ddinas


Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor, "Mae'r Cyngor wedi cael gwybod am nifer gynyddol o bebyll yng nghanol y ddinas ac mae wrthi'n trefnu cyfarfod gyda'i bartneriaid gan gynnwys yr heddlu, llochesau i bobl ddigartref ac elusennau a busnesau yng nghanol y ddinas er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen. 

 

"Rydym yn pryderu fod y nifer gynyddol o bebyll yn effeithio yn uniongyrchol ar nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd sy'n penderfynu yn erbyn derbyn cynigion o gymorth i ddod oddi ar y stryd a chael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw i weddnewid eu bywydau. 

 

"Mae problem digartrefedd yn rhywbeth y gellir ei weld ledled y DU. Mae'n fater hynod gymhleth a does dim atebion hawdd na phlaen iddo, ond mae Caerdydd wedi rhoi mesurau ar waith ac mae digon o leoedd ar gael fel nad oes angen i bobl aros ar y strydoedd. Dim ond drwy eu hannog i dderbyn cynigion o gymorth y gallwn ni ddechrau'r broses o helpu pobl i adael bywyd ar y stryd am byth."