Back
Adeiladwr Twyllodrus yn cael ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd


CAFODD YR adeiladwr twyllodrus David McAllister, 51, o Shirenewton, Caerdydd, ei anfon i'r carchar heddiw yn Llys y Goron Caerdydd am 16 mis am dwyllo ‘dioddefwyr oedrannus a bregus'.

Clywodd y llys fod Mr McAllister wedi twyllo gwerth cyfanswm o £39,950 gan dri dioddefwr dros gyfnod o 6 mis, ond dim ond £23,100 a lwyddodd i'w gasglu cyn cael ei arestio gan yr heddlu.

Rhwng Rhagfyr 2016 ac Ionawr 2017, talodd y dioddefwyr cyntaf - cwpl yn eu 80au â phroblemau â'u cof - £18,850 i McAllister am waith honedig ar eu to. Rhoddodd arolygwr annibynnol dystiolaeth yn yr ymchwiliad; dywedodd mai'r unig waith a wnaed yn y cyfeiriad oedd pŵer-olchi'r dreif, sydd werth £300.

Ym mis Mehefin 2017, talodd yr ail ddioddefwr, hen ŵr yn byw ar ei ben ei hun, gyfanswm o £4,250 i McAllister am waith peintio ar flaen ei eiddo. Cadarnhaodd yr arolygwr annibynnol mai dim ond £700 oedd gwerth y gwaith a wnaed.

Galwodd McAllister gyda'r trydydd dioddefwr, a oedd yn 79 ac yn byw ar ei phen ei hun ac yn dioddef o broblemau symudedd a phroblemau iechyd eraill, yn ddiwahoddiad a honni, unwaith eto, bod angen gwneud gwaith ar y to. Amcangyfrifodd McAllister mai £8,500 oedd cost y gwaith, ond dyblodd i £16,050 mewn dim o dro. Ar ddiwrnod casglu'r arian, rhoddwyd gwybod i'r heddlu am y mater ac arestiwyd David McAllister ger cartref y dioddefwr.

Ym mhob achos, defnyddiodd David McAllister enw ffug a chlywodd y llys fod ganddo euogfarnau blaenorol am dwyll, gwneud ymhoniadau anwir a lladrata.

Dywedodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Dyma achos lle roedd dyn yn credu bod ganddo'r hawl i dargedu pobl fregus ac oedrannus gyda gwaith nad oedd ei angen arnynt, gan godi a chasglu symiau sylweddol o arian ganddynt.

"Yr arian yma oedd cynilion oes y bobl hyn ac mae'n fy ngwneud i'n sâl meddwl y gallai rhywun wneud y fath beth yn erbyn aelodau bregus o'n cymdeithas.

"Nawr mae ganddo amser i feddwl am yr hyn a wnaeth yn y carchar, ac os bydd yn torri ei Orchymyn Ymddygiad Troseddol ar ôl cael ei ryddhau, gallaf ei sicrhau y bydd yn mynd o flaen ei well unwaith eto."

Wrth ei ddedfrydu, cyfeiriodd y Barnwr Jeremy Jenkins at David McAllister fel "adeiladwr twyllodrus sy'n ysglyfaethu ar ddioddefwyr oedrannus a bregus gan godi crocbris am waith na chafodd ei wneud, neu a gafodd ei wneud i safon isel iawn."

"Ym mhob achos defnyddioch enw ffug i guddio pwy ydych chi ac, yn fy marn i, dylai unrhyw un sy'n targedu'r hen neu'r oedrannus fynd yn syth i'r carchar."

Dedfrydwyd David McAllister i ddwy flynedd o garchar, wedi'i leihau i 16 mis oherwydd ei ble euog cynnar.

Cafodd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol hefyd ei wneud gan Safonau Masnach y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir am dair blynedd, sy'n gwahardd McAllister rhag masnachu fel adeiladwr neu alw heb ganiatâd. Bydd y gorchymyn cyfreithiol hwn yn dod i rym pan gaiff David McAllister ei ryddhau o'r carchar.