Caiff adroddiad ar gynnydd sy'n rhoi manylion am berfformiad ysgolion Caerdydd ar gyfer 2017/18 ei gyflwyno i gabinet Cyngor Caerdydd yr wythnos nesaf (Dydd Iau 24 Ionawr).
Bydd yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad yn darparu dadansoddiad o ddeilliant addysgol dysgwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18 ar draws y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 i 5, o ran cyrhaeddiad, presenoldeb, gwaharddiadau a phontio i addysg bellach, cyflogaeth a hyfforddiant.
Cafodd Caerdydd 2020, sef gweledigaeth wedi'i hadnewyddu ar gyfer addysg yng Nghaerdydd ei lansio yn 2016. Ei nod yw gwella addysg a dysgu yn y ddinas drwy sicrhau bod; "Holl blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd yn mynychu ysgol wych ac yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r nodweddion sy'n eu harwain i ddod yn ddinasyddion sy'n bersonol lwyddiannus, yn economaidd gynhyrchiol ac yn weithredol ymgysylltiedig."
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, y pum nod allweddol yw:
- Deilliannau rhagorol i ddysgwyr
- Gweithlu o ansawdd dda
- Amgylcheddau dysgu y 21ain ganrif
- System ysgolion sy'n gwella ei hun
- Ysgolion a Chaerdydd mewn partneriaeth
Mae'r adroddiad am berfformiad yn amlinellu crynodeb o gryfderau allweddol yn ystod y cyfnod 2017/18.Sef:
Mae heriau allweddol a godir yn yr adroddiad yn cynnwys:
• Lleihau'r bwlch o ran perfformiad i blant sy'n derbyn gofal gyda phlant o'u hoedran eu hunain
• Gwella deilliannau i ddysgwyr ar Lefel 1
• Gwella deilliannau dysgwyr sy'n Derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS)
• Parhau i leihau'r bwlch rhwng deilliannau i bobl ifanc sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (eFSM) a'r rhai nad ydynt yn gymwys (nFSM)
• Sicrhau bod darpariaeth o ansawdd da ar waith i wella lles pob dysgwr a staff mewn addysg
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos, yn ystod y flwyddyn academaidd 2017/2018, y perfformiodd Caerdydd yn dda mewn ystod eang o ddangosyddion perfformiad allweddol ar draws y Cyfnodau Allweddol ac mae'n glir bod ein hymrwymiad i welliant addysgol, a ddisgrifir yn strategaeth Caerdydd 2020, wedi cael effaith sylweddol ar gyfer plant a phobl ifanc y ddinas.
"Yng Nghyfnod Allweddol 5 mae perfformiad Caerdydd yn gryf gyda 98.5% yn cyflawni trothwy Lefel 3, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru sef 97.6% ac yng Nghyfnod Allweddol 4 mae Caerdydd yn y tri gorau o holl Awdurdodau Lleol Cymru, i fyny o'r 13eg yn ystod 2013/14.
"Mae'n foddhaol gweld bod y gwaith yr ydym yn ei wneud i godi safonau wedi'i adlewyrchu yn yr adroddiad hwn, fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod llawer i'w wneud o hyd i wireddu'r dyhead fel rhan o'n Huchelgais Prifddinas, sef y bydd pob plentyn yng Nghaerdydd yn mynychu ysgol wych a chael pob cyfle i lwyddo."