Back
Cyn-Gynghorydd i’w hanrhydeddu â cherflun yng nghanol y ddinas

 

Mae un o gyn-Gynghorwyr Caerdydd wedi ennill pleidlais ar-lein "Arwresau Cudd" BBC Wales ac yn cael ei hanrhydeddu â cherflun yn Sgwâr Canolog y ddinas.

Betty Campbell, cyn-Gynghorydd ar gyfer ward Butetown, oedd pennaeth du cyntaf Cymru, a gweithiodd yn ddiflino i hyrwyddo treftadaeth amlddiwylliannol y ddinas. Roedd Betty hefyd yn aelod o'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ac yn un o'r arloeswyr y tu cefn i'r Mis Hanes Pobl Dduon.

Bu Betty Campbell yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Mount Stuart ac yn cynrychioli trigolion Butetown fel Cynghorydd o 1999 i 2004. Ym 1998, i gydnabod ei gwaith ar gydraddoldeb hiliol, gwnaeth Betty gwrdd â Nelson Mandela ar unig ymweliad Arlywydd De Affrica â Chymru.
 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Dwi wrth fy modd fod Betty Campbell wedi ennill pleidlais arwres Gymreig gudd BBC Wales. Mae'n hynod briodol fod y bleidlais wedi'i hennill gan un o ferched Tiger Bay, pennaeth du cyntaf y wlad a chyn-Gynghorydd Sir hefyd. Gweithiodd Betty'n ddiflino dros y degawdau yn addysgu plant Butetown ac yn helpu i adeiladu cymdeithas a oedd yn rhoi'r cyfleoedd gorau posibl i bobl, waeth beth fo'u cefndir. Fel ffigur sy'n ysbrydoli pobl o hyd, alla i ddim meddwl am berson gwell i'w anrhydeddu â cherflun yn nghanol y ddinas; dinas na fyddai'r un peth hebddi."

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Wales, Rhodri Talfan Davies:"Rydyn ni wrth ein bodd â'r ymateb anhygoel i'r gyfres Arwresau Cudd. Mae'r project cyfan wedi bod yn gyfle unigryw i ddathlu pum Cymraes arbennig a'u cyfraniad cyfoethog i'r byd."

Yr enwebeion eraill oedd  Elizabeth Andrews, Sarah Jane Rees (Cranogwen), Elaine Morgan a Margaret Haig Thomas (Y Fonesig Rhondda).

Bu farw Betty Campbell yn 2017 yn 82 oed.