Back
Help i barhau i fod yn annibynnol gartref

 

Mae Teleofal Caerdydd, gwasanaeth warden ac ymateb Cyngor Caerdydd, yn cynnig offer wedi'i osod am ddim i gwsmeriaid i'w helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth a chefnogaeth i unigolion agored i niwed ledled y ddinas, lle bynnag y maent yn byw: boed hynny mewn tŷ cyngor, eiddo preifat neu gartref ar rent.

Mae Teleofal Caerdydd yn rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd a gofalwyr cwsmeriaid, ac mae'n cynnwys gosod cyfarpar o'r radd flaenaf sy'n hawdd ei ddefnyddio mewn cartrefi unigol sy'n gysylltiedig â chanolfan gyswllt lle gall gweithredwyr drefnu'r ymateb priodol: o alw aelod o'r teulu neu feddyg neu anfon un o wardeiniaid teithiol hynod hyfforddedig y gwasanaeth.

 

Mae amrywiaeth o gynhyrchion ar gael, o bendant cynnil gyda larwm botwm gwasgu, i fotymau galwyr ffug, synwyryddion carbon monocsid, synwyryddion epilepsi, sêffs ag allweddi a mwy.Ac, am gyfnod cyfyngedig yn unig, mae Teleofal yn cynnig offer a gwaith gosod am ddim i gwsmeriaid. 

 

O gyn lleied â 28c y diwrnod ar gyfer taliadau monitro, gallai cwsmeriaid gael cysur o wybod bod rhywun ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.Gall y tîm roi gwybod i gwsmeriaid am y pecynnau gorau ac, os yw'n berthnasol, monitro taliadau sy'n gweddu i anghenion unigol.

 

Dywed mwy na 98% o gwsmeriaid y byddent yn argymell y gwasanaeth, ac mae 92% yn teimlo bod y gwasanaeth yn eu helpu i aros yn annibynnol gartref.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae Teleofal Caerdydd yn achubiaeth i bobl sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol i fyw'n annibynnol.Yn bwysig ddigon, nid yw'r gwasanaeth fforddiadwy hwn gyfer pobl hŷn yn ein cymuned yn unig - tra bod ein cwsmer hynaf yn 102, mae ein un ieuengaf yn 8, ac mae hynny'n dangos bod y gwasanaeth yn gallu cefnogi pobl ag ystod eang o anghenion.

 

"Rydym yn falch iawn o allu cynnig offer am ddim i gwsmeriaid ar hyn o bryd a allai wneud gwahaniaeth mawr i alluogi rhywun i barhau i fyw gartref yn hirach, yn ddiogel gan wybod bod help wrth law os a phan fydd angen."

 

I gael gwybod mwy am y gwasanaethau a'r cynnyrch sydd ar gael gan Teleofal Caerdydd, ewch i https://www.telecarecardiff.co.uk/neu ffoniwch 029 2053 7080.