Back
Glynwch wrth y rheolau i osgoi mynd i’r llys

Gorchmynnwyd gyrrwr tacsi Cerbyd Hacni, Abdul Rehman o Clydach Street yn Grangetown, Caerdydd, i dalu bron i £1,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau diwethaf (Ionawr 17) am dair trosedd.

I ddechrau, am fethu â defnyddio’r mesurydd, yn ail am godi mwy na’r pris awdurdodedig ac yn olaf am fethu ag arddangos ei fathodyn gyrrwr.

Er bod y diffinydd o gymeriad da yn flaenorol, nid oedd Rehman yn ‘dyst credadwy’ yn ôl yr Ynadon ac fe’i cafwyd yn euog o’r tri chyhuddiad.

Dywedodd y Cyng Norma Mackie, Cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn y Cyhoedd:

 “Mae’r Cyngor yn cydnabod fod y rhan fwyaf o yrwyr tacsi yn cynnig gwasanaeth hanfodol i sicrhau fod y cyhoedd yn gallu cyrraedd adref yn ddiogel wedi noson allan. Pan wneir cwynion, byddwn wastad yn ymchwilio ac yn cymryd camau ffurfiol os caiff tystiolaeth ei gofnodi a’i gyflwyno i ni. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal ymarferion siopa cudd.

 “Rydym yn falch fod y Llys wedi codi dirwy sylweddol am y troseddau hyn ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gweithredu fel rhybudd i yrwyr eraill a allai gael eu temtio i weithredu y tu hwnt i amodau eu trwyddedau.

 “Gofynnwn i unrhyw un sydd am wneud cwyn yn erbyn gyrrwr ac sy’n barod i roi eu tystiolaeth ger bron y pwyllgor, i gysylltu a ni fel y gallwn weithredu.

“mae angen peth manylion arnom, megis rhif y gyrrwr (ar fathodyn ar y ffenest flaen), neu’r rhif cofrestru, dyddiad ac amser y digwyddiad ac adrodd amdano wrth mailto:trwyddedu@caerdydd.gov.uk

 “Os na fydd yr Adran Drwyddedu yn derbyn digon o wybodaeth ni allant gymryd unrhyw gamau, felly sicrhewch eich bod yn adrodd am y digwyddiadau hyn cyn gynted ag y bo modd.”

Cafodd Mr Rehman ddirwy o £360, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £600 a gordal dioddefwr o £30.