Back
Gorsafoedd Gwybodaeth i helpu trigolion yng Nghanolfannau Ailgylchu

 

Bydd Swyddogion Addysg Gwastraff yn gwirio gwastraff mewn bagiau y mae trigolion am ei roi mewn sgipiau gwastraff cyffredinol canolfannau ailgylchu i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ailgylchadwy'n cael eu symud cyn i'r sgip gael ei ddefnyddio.

 

Dim ond ar ôl i drigolion symud yr eitemau y gellir eu hailgylchu a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi yn y sgipiau ailgylchu cywir ar y safle y gellir taflu'r gwastraff sy'n weddill yn y bagiau yn y sgip gwastraff cyffredinol.

 

Gofynnir i drigolion sy'n gwrthod dangos cynnwys eu bagiau i Swyddogion Addysg Gwastraff fynd â'r bagiau yn ôl i'w cartref i wahanu'r eitemau. Bydd dwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yng Nghaerdydd yn parhau i alluogi trigolion i waredu gwastraff cyffredinol ar y safle ac nid oes cyfyngiad o ran faint a roddir yn y sgip priodol. Caiff Gorsafoedd Addysg y canolfannau ailgylchu eu lansio ar 28 Ionawr 2019.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Rydym yn cyflwyno Gorsafoedd Addysg yn ein canolfannau addysg i wella dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o'r hyn y gellir ei ailgylchu a'r hyn na ellir ei ailgylchu. Mae llawer o bobl yn cynnwys deunyddiau ailgylchadwy ym miniau gwastraff cyffredinol eu cartref yn ddiniwed gan nad ydyn nhw'n sylweddoli bod modd eu hailgylchu. Bydd ein Swyddogion Addysg yn helpu pobl i gynyddu faint maen nhw'n ei ailgylchu. Er bod sgipiau ailgylchu ar gyfer mwy na 20 deunydd gwahanol, y ffaith yw bod trigolion yn ailgylchu dim ond 69% o'u deunyddiau yn ein canolfannau ailgylchu. Mae angen i ni gynyddu hyn er mwyn bwrw ein targed ailgylchu statudol."

 

Mae gan Gaerdydd ddwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Bessemer Close yn Lecwydd a Ffordd Lamby yn Nhredelerch. Mae angen i Gyngor Caerdydd fwrw targed ailgylchu statudol o 64% erbyn mis Ebrill 2020.