Back
Sigarét a gostiodd £280 i yrrwr tacsis Caerdydd


Mae gyrrwr tacsis llogi preifat wedi cael gorchymyn i dalu £280 mewn llys am ysmygu sigarét yn ei dacsi mewn gorsaf betrol yn Nghoryton.

Ni ymddangosodd Mr Gary Saleh, o Heol y Gogledd yng Nghaerdydd, yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau diwethaf (Ionawr 24) ac fe'i herlynwyd yn ei absenoldeb.

Gwelodd aelod o'r cyhoedd fod Mr Saleh yn cynnau sigarét yn orsaf betrol Asda ar 16 Mai y llynedd, cyn rhoi gwybod am y digwyddiad hwn i'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

Anfonwyd hysbysiad cosb benodedig, gyda llythyr cysylltiedig yn egluro'r drosedd, i gyfeiriad Mr Saleh drwy ddosbarthiad cofnodedig, ond ni chafwyd unrhyw gysylltiad na thâl ganddo. Parhaodd swyddogion i geisio cysylltu â Mr Saleh, i egluro y byddai'r mater yn mynd i'r llys pe na fyddai'n cysylltu i dalu'r ddirwy.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Ni chaniateir i yrwyr tacsis ysmygu yn eu cerbyd. Eu cerbyd yw eu man gwaith, ac nid oes hawl iddynt ysmygu ynddo hyd yn oed os nad ydynt nhw'n cludo cwsmeriaid.

"Rwy'n gwybod bod swyddogion y Cyngor wedi ceisio cysylltu â Mr Saleh ar sawl achlysur. Pan ddaeth i'r amlwg ei fod wedi symud cyfeiriad, roeddynt hyd yn oed wedi ailgyflwyno'r hysbysiad cosb benodedig gan roi cyfle pellach iddo dalu. Gan fod y mater wedi cyrraedd y Llys, mae Mr Saleh wedi gorfod talu'r costau cyfreithiol yn ogystal â'r ddirwy."

Cafodd Mr Saleh ddirwy o £100, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £150 gyda gordal dioddefwr ychwanegol o £30.