Back
Helpwch ni i ffurfio ein Hybiau newydd

 

Anogir aelodau o'r gymuned i ddweud eu dweud ar opsiynau ar gyfer datblygu dau hyb lles newydd yn rhan ogleddol y ddinas.

 

Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed barn pobl sy'n defnyddio Llyfrgell Rhydypennau a Llyfrgell yr Eglwys Newydd yn ogystal â'r cyhoedd ehangach yn yr ardaloedd hynny sy'n trafod pa wasanaethau a gweithgareddau yr hoffent eu gweld yn cael eu darparu o'r cyfleusterau.

 

Gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen canolfannau cymunedol y Cyngor, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu hybiau lles yn rhan ogleddol y ddinas, gan ganolbwyntio ar les cymdeithasol a ffyrdd llesol o fyw, ymgysylltu â'r gymuned a byw'n annibynnol.

 

Gyda staff cymwys wrth law i helpu cwsmeriaid, bydd hybiau lles yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymunedol a lles i ategu'r gwasanaeth llyfrgell yn yr adeiladau.Bydd y Cyngor yn gweithio gyda sefydliadau partner, grwpiau lleol a gwirfoddolwyr i gyflwyno gweithgareddau a bydd digwyddiadau yn cael eu teilwra i anghenion y gymuned ac yn gwella'r ystod o wasanaethau sydd ar gael.

 

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i fuddsoddi yn y ddau gyfleuster drwy ymestyn ac adnewyddu'r adeiladau presennol, yn amodol ar gymeradwyaeth ariannol.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Bu ein rhaglen hybiau cymunedol yn llwyddiant ysgubol a hoffem ymestyn y llwyddiant hwnnw dros y ddinas.

 

"Ffocws ein hybiau lles fydd ymgysylltu â'n poblogaeth hŷn sy'n cynyddu a helpu i frwydro yn erbyn effaith unigedd ar les pobl drwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau a chymorth ar sail eu hanghenion.Er bod ffocws ar bobl hŷn, bydd y hybiau'n gwasanaethu'r gymuned gyfan.

 

"Mae'r sesiynau galw heibio a'r arolwg yn gyfle i bobl ddweud wrthym pa wasanaethau sy'n bwysig iddynt hwy a'u cymuned. Mae safbwyntiau pobl lleol yn bwysig a bydd yn dylanwadu ar ein proses gynllunio."

 

Mae nifer o sesiynau galw heibio wedi cael eu trefnu yn Llyfrgell Rhydypennau a Llyfrgell yr Eglwys Newydd er mwyn i bobl rannu eu barn a chwblhau arolwg byr ynghylch pa wasanaethau y byddent hwy a'u teuluoedd yn eu defnyddio.

 

Sesiynau galw heibio'r Eglwys newydd:

 

Dydd Llun, 4 Chwefror

10am - 1pm

Dydd Iau, 7 Chwefror

3pm - 7pm

Dydd Sadwrn, 9 Chwefror

10am - 1pm

 

 

Sesiynau galw heibio Rhydypennau:

 

Dydd Mawrth, 5 Chwefror

3pm - 7pm

Dydd Gwener, 8 Chwefror

10am - 1pm

Dydd Sadwrn, 9 Chwefror 

2pm - 5pm

 

 

Sesiwn galw heibio Tongwynlais yn Neuadd Gymunedol Tanyard

 

 

Dydd Gwener, 8 Chwefror

2pm - 6pm

 

 

Gall aelodau o'r cyhoedd hefyd gwblhau'r arolwg ar-lein, fydd ar gael o ddydd Llun 4 Chwefror tan ddydd Llun 18 Chwefror ar www.caerdydd.gov.uk/hybllesiant