Back
Categoreiddio Ysgolion Caerdydd 2019

Dywedodd y Cynghorydd Sara Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Rwy'n falch iawn o weld cynnydd o 55% yn nifer yr ysgolion Categori Gwyrdd ymysg y 127 o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yng Nghaerdydd.

Yn galonogol hefyd, gwelwyd gostyngiad yn nifer yr ysgolion yn y categori coch, a dim ond dwy ysgol y ddinas sydd yn y categori hwn erbyn hyn.

 "Rydym ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth i gyflawni gwelliannau parhaus i addysg yn y ddinas, ac mae'r ymarfer categoreiddio ysgolion eleni yn dangos y cynnydd cadarnhaol a wneir. Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad Ysgolion Caerdydd am 2017/18, sy'n nodi'r prif gryfderau a'r meysydd sydd angen eu gwella ymhellach.Mae'r canlyniadau'n dangos bod ysgolion Caerdydd yn perfformio'n dda ar draws ystod o ddangosyddion perfformiad ym mhob un o'r Cyfnodau Allweddol. 

"Rwy'n falch iawn o weld bod y cynnydd a wnaed wrth wella ansawdd yr addysg a ddarperir gan ysgolion Caerdydd yn gyffredinol yn cael ei adlewyrchu yn y ffigurau categoreiddio diweddaraf.Mae'r proffil perfformiad yn y ddinas wedi gwella'n sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan adlewyrchu'r pwyslais a roddir ar addysg fel elfen allweddol o Uchelgais Prifddinas y Cyngor".

 

Ymatebion eraill i gategorïau 2018 gan rai o ysgolion Caerdydd 

Ysgol Gyfun Radur, Andrew Williams - Pennaeth:"Mae'r llywodraethwyr wrth eu boddau yn adrodd bod Ysgol Uwchradd Radur wedi ei hasesu yn ysgol categori Gwyrdd A ar gyfer 2018. Mae hyn yn bosibl diolch i waith caled ac ymrwymiad parhaus y staff, y disgyblion ymroddgar a'r gefnogaeth gan y rhieni."

Ffederasiwn The Oaks Greenway a Trowbridge, Pennaeth Gweithredol Nic Naish:"Mae Greenway a Trowbridge wedi eu ffedereiddio erbyn hyn ac mae'r bartneriaeth barhaus wedi sicrhau rhagor o gysondeb gan ddatblygu'r ysgolion fel sefydliadau dysgu, yn rhannu datblygiadau, adnoddau ac arbenigedd i wella canlyniadau i gymunedau ein hysgolion.Mae'r parodrwydd i gydweithredu wedi bod yn allweddol i welliannau'r ysgolion a'r categorïau o ganlyniad."

 

Ysgol Uwchradd Cathays, y Pennaeth Tracey Stephens:"Mae Ysgol Uwchradd Cathays yn ysgol categori Gwyrdd A unwaith eto, ac mae hyn o ganlyniad i waith caled holl gymuned yr ysgol wrth geisio sicrhau canlyniadau rhagorol am bob un o'n disgyblion."

 

Ysgol Uwchradd Llanisien, y Pennaeth Mrs Sarah Parry:"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Ysgol Uwchradd Llanisien wedi ei rhoi yn y categori Gwyrdd A gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymarfer categoreiddio ysgolion diweddaraf.

"Am bedair blynedd mae'r ysgol wedi symud o gapasiti i wella D i A ac o gategori cymorth coch i wyrdd sy'n ganlyniad anhygoel ac yn un yr ydym ni'n falch iawn ohono.Rydym ni wrth ein boddau bod gwaith caled ein disgyblion wedi ei werthfawrogi yn y modd hwn. Ac yn bennaf, rydym yn falch o'r ffaith bod dysgwyr o bob gallu yn gwneud cynnydd da yn Ysgol Uwchradd Llanisien."

Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog, y Pennaeth Huw Powell:"Mae'r ysgol sydd yng Ngwenfô yng ngorllewin Caerdydd, wedi cael y clod uchaf eto yng nghategorïau Llywodraeth Cymru, sy'n ei gwneud yn un o'r ychydig iawn o ysgolion yng Nghymru i gyrraedd y radd uchaf am y bumed flwyddyn yn olynol.Rydym yn hynod falch o fod yng nghategori Gwyrdd A unwaith eto am y bumed flwyddyn yn olynol, ac mae hyn oherwydd ymrwymiad a phenderfynoldeb y staff a'r disgyblion, rydym yn falch o gael ein cydnabod am y gwaith yr ydym yn ei gyflawni bob blwyddyn."

Pen y Groes, y Pennaeth Anne Fenner:"Rydym yn Ysgol Gymraeg fechan yn ardal Pentwyn Caerdydd, ac rydym ni wedi bod ar dipyn o daith yn ystod y tair blynedd diwethaf ac rydym wedi gwella o gategori ambr i felyn, a heddiw, cawsom ein rhoi yng nghategori Gwyrdd!Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau y gall pob plentyn lwyddo i gyflawni ac nad oes cyfyngiadau ar alluoedd plant.Ein gweledigaeth fel ysgol yw galluogi disgyblion a staff i gyflawni eu potensial a rhagori arno mewn amgylchedd cadarnhaol a dymunol."

Mae cymuned gyfan Ysgol Pen y Groes wedi bod yn rhan annatod o'i gwelliant.