Back
Grant o £5,700,000 i ddod â bysus trydan i Gaerdydd wedi'i gymeradwyo
Mae grant o £5,700,000 i helpu i ddod â 36 o fysiau trydan i Gaerdydd wedi'i gymeradwyo heddiw yn dilyn cais am gyllid ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Bws Caerdydd.

Mae'r grant yn cynnwys £341,000 tuag at osod seilwaith gwefru a fydd yn caniatáu i'r bysiau wefru dros nos neu yn ystod egwyliau hirach.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth:  "Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion da i Gaerdydd ac i Bws Caerdydd a bydd yn ein helpu i wireddu ein huchelgais awyr iach yn y ddinas.

"Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio ar ei strategaeth aer glân a gwnaethom dreialu bws trydan yn llwyddiannus y llynedd gyda Llywodraeth Cymru.Mae pobl wedi’u cyffroi ynglŷn â bysiau trydan, maent yn gallu gweld y manteision iechyd.Pan wnaethom lansio ein Papur Gwyrdd ar Aer Glân a Thrafnidiaeth y llynedd, yr ail syniad mwyaf poblogaidd y buom yn ymgynghori yn ei gylch oedd dod â bysus trydan i'r ddinas.

"Mae ein Papur Gwyn a'n hachos busnes aer glân yn ddyledus yn ddiweddarach eleni, ond mae'r cyhoeddiad hwn yn talu am y gwaith caled rydym wedi bod yn ei wneud y tu ôl i'r llenni i geisio manteisio i'r eithaf ar bob cyfle sydd gennym i wella ansawdd aer yng Nghaerdydd."

Mae Caerdydd yn un o'r 28 o ddinasoedd a nodwyd ledled y DU fel un sydd â phroblemau llygredd aer.

Mae effeithiau byrdymor llygredd aer yn cynnwys gwaethygu cyflyrau sy'n bodoli ar y galon a'r ysgyfaint fel asthma a broncitis ac yn yr hirdymor gall arwain at gyfraddau uwch o glefyd yr ysgyfaint a chlefyd cardiofasgwlaidd (gan gynnwys clefyd y galon a strôc) a chanser.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild:  "Mae Caerdydd ar groesffordd bwysig.Os ydym am gael dinas decach, lanach, iachach a mwy ffyniannus yfory mae'n rhaid i ni wneud rhai newidiadau dewr heddiw.Os na wnawn hynny, bydd anghydraddoldeb, ansawdd aer a thagfeydd yn gwaethygu.  Mae Caerdydd wedi ymateb erioed i'r her pan fu'n rhaid iddi newid: o adeiladu dociau a rheilffyrdd a helpodd i gludo glo o dde Cymru i'r byd, i ddinas sydd wedi llwyddo i ailffocysu ei heconomi ar ôl dad-ddiwydiannu.Nawr mae’n rhaid i Gaerdydd newid eto.”